Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae ail sioe gerdd Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i gosod yn Nociau Caerdydd ar droad yr ugeinfed ganrif, lle mae tlodi enbyd ochr yn ochr â chyfoeth eithriadol a’r diwydiant glo yn teyrnasu.

Mewn cyd-gynhyrchiad gyda Cape Town Opera, cyflwynodd Canolfan Mileniwm Cymru sioe gerdd ysblennydd oedd yn dod â rhu’r Teigr yn fyw ar lwyfan.

Yn seiliedig ar benderfyniad merch ifanc i ddilyn ei chalon mae Tiger Bay yn mynd ar daith drwy dafarndai a strydoedd cefn aflan y ddinas. Mae’r cynhyrchiad Cymreig unigryw yma’n dwyn i gof straeon cudd Caerdydd ar drobwynt rhyfeddol mewn hanes.

Roedd y cast llawn sêr lleol a rhyngwladol yn cynnwys John Owen Jones fel yr Ardalydd Bute a seren leol, Vikki Beb, yn camu mewn i’r brif ran. Crëwyd Tiger Bay Y Sioe Gerdd gan Ganolfan Mileniwm Cymru ar y cyd â Cape Town Opera, gyda llyfr a geiriau gan Michael Williams a sgôr wreiddiol gan y cyfansoddwr o Gymru, Daf James. Cynhaliwyd première Tiger Bay Y Sioe Gerdd yn Artscape Opera House yn Cape Town ym mis Hydref 2017 cyn dod i lwyfan y Donald Gordon.