Y mis Ebrill hwn rydyn ni'n cyfuno â Chaerdydd Sy'n Dda i Blant er mwyn rhoi cyfle arbennig ibobl ifanc 12+ oed i ddod i abseilio waliau ein hadeilad eiconig ym Mae Caerdydd.
Cynhelir sesiynau ddydd Sul 17 Ebrill o 12pm i 5pm a dydd Llun 18 Ebrill o 11am i 5pm.
Bydd modd naill ai archebu slot amser ymlaen llaw neu droi lan ar y diwrnod – cyhyd â bod slotiau amser ar gael.
Cymryd rhan
Plîs gwblhewch ffurflen gofrestru arlein Cyngor Caerdydd cyn 31 Mawrth.
Wrth gyrraedd, ewch i'n desg gofrestru yng nghyntedd y Glanfa (ger Caffi) er mwyn derbyn eich harnais a hyfforddiant cyn cael eich hebrwng i do’r adeilad er mwyn abseilio. Rhaid gwisgo dillad ac esgidiau addas ar y dydd - dim fflip-fflops!
Cyfyngiad oedran: 12+
*Rhaid i unrhywun dan 18 ddarparu llofnod o ganiatâd gan riant/warcheidwad neu athro/weithiwr cefnogi.
Amser rhedeg: Pob 30 munud