Mae Carnifal Tre-biwt yn ôl y mis Awst hwn ac rydym ni’n rhoi’r cyfle i chi ddysgu sut i wneud, dylunio a chreu gwisg ar gyfer Carnifal ar y cwrs pedair wythnos yma.
Dathliad o fywyd a chreadigrwydd ydy Carnifal. Mae’n gyfle i ddweud beth bynnag chi eisiau yn eich ffordd greadigol chi. Mae’n gyfle i wisgo dillad ffansi, mae’n gyfle i gael hwyl, mae’n gyfle i ryddhau eich hun o normalrwydd bob dydd.
Gadewch i’ch dychymyg fynd yn wyllt a dysgwch ychydig o sgiliau newydd yn y cwrs am ddim yma i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.
AR GYFER PWY MAE’R CWRS?
Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw un rhwng 14 ac 25 oed o bob cefndir ledled Cymru, ac maen nhw ar lefel mynediad – wedi’u hanelu at y chwilfrydig, dechreuwyr, neu bobl ifanc sy’n dymuno adnewyddu eu sgiliau.
Er mwyn cadw lle ar ein cwrs am ddim, cofrestrwch.
PRYD?
Bydd angen i chi allu ymrwymo i dri diwrnod y cwrs ar 28 Gorffennaf, 4 Awst, 11 Awst a 18 Awst 2022, rhwng 5pm a 7:30pm.
AM EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL
Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
Ariennir y gweithgaredd hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.