Dewch draw i ymuno â ni mewn gweithdy creadigol sy'n arwain at ein Gwledd Gymunedol Windrush.
Bydd y sesiwn yn cynnwys cyfuniad o ysgrifennu creadigol a chrefft wedi'u hysbrydoli gan y genhedlaeth Windrush.
Yna bydd cynnyrch y gweithdy yn cael ei ddefnyddio i addurno gofod Glanfa Canolfan Mileniwm Cymru ar gyfer Gwledd Gymunedol Windrush ddydd Sul 5 Mehefin.
Bydd y gweithdy'n cynnwys egwyl ginio.