Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Hwyl Am Ddim Drwy'r Haf

Canolfan Mileniwm Cymru

26 July – 2 September 2022

Hwyl Am Ddim Drwy'r Haf

26 July – 2 September 2022

Canolfan Mileniwm Cymru

Mae gennym lwyth o weithgareddau hwyl am ddim i ddiddanu eich plant drwy gydol yr haf, o weithiau celf chwyddadwy anhygoel i gelf a chrefft a gemau trychfilod. Dewch i ymuno!

HWYL YN EIN GARDD GLANFA

Rhwng 26 Gorffennaf a 2 Medi 2022

Dewch i ymweld â’n Gardd Glanfa, lle hudol i ddathlu’r haf a chael hwyl. Cadwch lygad am 'Raintree', un o Warchodwyr yr Ardd sy'n eistedd tu allan ar y balconi uwchben Teras ac a gafodd ei ddylunio gan Jimmy Ling sy'n 10 oed! 

Drwy’r haf byddwn ni’n dathlu natur, cynaliadwyedd a chymuned drwy amrywiaeth o weithdai a pherfformiadau i bob oed. Felly, dewch i gymryd rhan ac anghofio eich swildod: gallwch chi chwarae, bod yn wirion a chreu atgofion.

Cewch eich croesawu gan weithiau celf chwyddadwy hardd sydd wedi’u dylunio a’u gosod gan Designs in Air o Fryste. Dyluniwyd a chrëwyd y patrymau crosio gan Leopardwolf Morgan o Ferthyr Tydfil.

ARCHWILIO LLWYBR GWARCHODWYR YR ARDD

Mae’r Gwarchodwyr yr Ardd eraill digywilydd wedi mynd am dro... Drwy gydol gwyliau’r haf ymunwch â ni ar Lwybr Gwarchodwyr yr Ardd drwy’r adeilad i geisio dod o hyd i bob un ohonyn nhw.

Casglwch daflen y llwybr o’r ddesg docynnau (nesaf at y caffi Double Zero) a dechreuwch chwilio. Os byddwch chi’n ffeindio’r deg Gwarchodwr, dychwelwch eich taflen at ein tîm wrth y ddesg docynnau i gael bathodyn botwm o’ch ffefryn.

Diolch yn fawr iawn i’r plant a ddyluniodd y Gwarchodwyr ar gyfer y llwybr: Jimmy Ling, Isra Mughal, Morgan Rogers, Anna Thomas, Mefin Pocock, Lili Thomas, Molly Wing, Zelda Abney-Hastings, Elliot Lewis a Georgina Ling.

DAWNSIO GYDA'R GWENYN

Dydd Llun 8 Awst

Ymunwch â The Sparklettes ar gyfer hwla hwpio a disgo gwenyn yn ardal y Glanfa. Dewch i ddawnsio a chael hwyl yn ein gardd brydferth.

  • Dawns Linell y Gwenyn gyda Hwla Hwpio - 10am a 2pm (30 munud dim egwyl)
  • Gweithdy Hwla - 10.30am a 2.30pm
  • Dawnsio gyda'r Gwenyn - 12pm a 4pm (60 munud)

TRYCHFILOD A'R CAMPAU CAMPUS

Dydd Gwener 19 Awst, 1pm a 3pm

Dewch i brofi hwyl yr ŵyl a chymerwch ran yn y gemau byrbwyll am 1pm a 3pm yn ardal y Glanfa o dan ofal eich cyflwynwyr, y ddau griced direidus!

Pwy fydd yn ennill y gystadleuaeth nofio, y pry cop neu'r wlithen?! Sut siâp fydd ar y pili pala wrth iddo geisio codi pwysau?! Ydy hi'n bosibl i falwoden allu gwisgo menyg bocsio?!

Llawenhewch ym miri mawr y seremoni agoriadol a chyd-ganwch Anthem Genedlaethol y Trychfilod yn y sioe liwgar yma ar gyfer y teulu cyfan.

Crëwyd gan Familia De La Noche gyda cherddoriaeth newydd gan HMS Morris a chynhyrchwyd mewn partneriaeth â Haf o Hwyl Cyngor Caerdydd, Theatr Clwyd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Articulture.

GWEITHDAI MODELU SBWRIEL

Dydd Mercher 27 Gorffennaf, 3 Awst, 10 Awst, 17 Awst a 24 Awst rhwng 11am a 2pm

Ymunwch ag Ail-Greu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yr haf hwn i gael hwyl greadigol. Dewch i greu beth bynnag yr hoffech chi o ddewis anhygoel o eitemau ailddefnyddiadwy wedi’u hadfer. Defnyddiwch dâp, glud, siswrn a’ch dychymyg i weld beth allwch chi ei greu.

GWEITHDAI BOMIAU HADAU

Dydd Llun 15 Awst, 22 Awst a dydd Mawrth 23 Awst, rhwng 11am a 3pm

Ymunwch â Green Squirrel a dysgwch sut i greu eich bomiau hadau eich hunain er mwyn helpu eich gardd i dyfu neu ddod â mwy o liw i’ch cymuned a chefnogi ein trychfilod. Byddwch chi’n gallu dewis eich hadau eich hunain a dysgu sut i ddefnyddio eich bomiau hadau a gofalu am eich planhigion wrth iddyn nhw dyfu.

Diolch yn fawr iawn i 'Haf o Hwyl' Caerdydd sy'n Dda i Blant sydd wedi ariannu rhai o'r gweithgareddau hyn.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru