Mae Odds On yn mynd â chi i fyd gamblo ar-lein; o ennill am y tro cyntaf i fywyd tu ôl y sgrin i ddangos i chi a yw eich cyd-chwaraewyr yn llwyddo.
Mewngofnodwch i ‘Pearls of Fortune’, sef y gêm slotiau ar-lein rydym i gyd yn gaeth iddi, rhowch enw difyr i chi’ch hun, dewiswch rithffurf hoffus a phlymiwch o dan y tonnau i droelli.
Dilynwch Felicity, cwsmer gwerthfawr, a chraffwch o dan y dyfnderoedd tywyll i weld sut y gall troelli fynd allan o reolaeth.
Dewch i gymryd rhan!
“A stunningly clever hybrid of intimate drama, film and gameplay.”
Gwyliwch Odds On ar-lein yma.
Hyd y profiad: 40 munud
Canllaw oedran: 14+
Hygyrchedd: Mae gan y ffilm gapsiynau ymgorfforedig a sain ddisgrifiad dewisol.
Rhybudd am Gynnwys: Iaith anweddus, gamblo a golygfeydd a all beri gofid i rai pobl.
Mae’r ffilm hon yn cynnwys gamblo (chwarae byw, delweddau, seiniau ac efelychu slotiau) a all beri gofid i bobl sy’n gaeth i gamblo neu sy’n gwella. Mae pecyn cymorth i bobl y mae’n bosibl y bydd y materion sy’n codi yn effeithio arnyn nhw ar gael yma.
Os bydd efelychiad peiriant slotiau yn peri gofid i chi, bydd fersiwn nad yw’n rhyngweithiol ar gael i’w wylio yn lle hynny.
CYDNABYDDIAETHAU
Awduron a Chyfarwyddwyr: Daphna Attias a Terry O'Donovan
Golygydd a Chyfarwyddwr Animeiddio: John Brannoch
Felicity: Fiona Watson
Joel: Maynard Eziashi
Adrian: Elan James
Lana: Bianca Stephens
Noah: Oshy Fuller
Nyrs: Terry O'Donovan
Cyfansoddwyr: Yaniv Fridel a Ofer (OJ) Shabi
Cynllunio Sain a Cherddoriaeth Ychwanegol: Ben Kelly
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Christopher Jeffers
Cynllunydd Cynhyrchiad a Gwisgoedd: Kat Heath
Dramäwriaeth: Tim Crouch
Ymgynghorydd Sgript: Lisa Goldman
Datblygu’r We: Sebastien Dehesdin
Uwch-gynhyrchydd: Sophie Ignatieff
Cynhyrchydd Cyfranogi: Lucy Dear
Cynhyrchydd Cynorthwyol: Caitlin Evans
Hwylusydd Grŵp Cynghori Creadigol: Fiona Watson
Recordwyr Sain Lleoliad: Manon Vigouroux a Lisala Dolo
Cymysgu Sain: Julian Blanco yn Soho Sonic Studios
Lleisydd: Jemima Housden
Recordiwyd a Chymysgwyd yn Soho Sonic Studios
Grŵp Cynghori Creadigol Profiad Bywyd: Nadine Ashworth, Owen Baily, Nicola Jaques, Ryan Pitcher, Jade Vallis
Datblygu Hygyrchedd: Emily Howlett
Sain Ddisgrifiad: Louise Fryer
Comisiynwyd fel rhan o LIVE NOW – rhaglen gomisiynu digidol The Lowry – a gan Lighthouse Poole, ac ariannwyd gan Arts Council England. Cefnogwyd gwaith ymchwil a datblygu gan gomisiwn Farnham Maltings New Popular, Ideals Test a South Street Reading, a thrwy gyllid cyhoeddus gan Sefydliad Garfield Weston, Awards for All, Sefydliad Rayne ac Arts Council England.
Capsiynau Agored
Sain Ddisgrifiad