Ydych chi rhwng 14 a 17 oed, ac yn ymddiddori mewn creu theatr sy’n berthnasol i’r byd rydych chi’n byw ynddo heddiw?
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi rhaglen theatr ieuenctid newydd sbon am ddim, lle byddwch chi’n dysgu sgiliau theatr a pherfformio newydd mewn gofod cyfeillgar a chynhwysol.
Yn ystod y rhaglen, byddwch chi’n datblygu eich dealltwriaeth o’r holl elfennau sy’n rhan o greu gwaith theatr da – o ymchwilio a datblygu syniadau, i gynllunio setiau a rhoi perfformiad o fri.
Ymarferwyr proffesiynol fydd yn arwain y cwrs, a byddant wrth law i rannu eu safbwyntiau unigryw o fyd y theatr, gan roi’r man cychwyn perffaith i chi i ddiwylliant celfyddydol ffyniannus Cymru.
AR GYFER PWY MAE’R CWRS?
Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw un rhwng 14 ac 17 oed o bob cefndir ledled Cymru, ac maen nhw ar lefel mynediad – wedi’u hanelu at y chwilfrydig, dechreuwyr, neu bobl ifanc sy’n dymuno adnewyddu eu sgiliau.
Er mwyn cadw lle ar ein cwrs am ddim, cofrestrwch.
PRYD?
Bydd angen i chi allu ymrwymo i dri diwrnod y cwrs ar 22, 23, 24 a 25 Awst 2022, rhwng 10am a 4pm.
Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.
AM EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL
Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
Ariennir y gweithgaredd hwn gan The Moondance Foundation, Garfield Weston Foundation, The Simon Gibson Charitable Trust a The Mary Homfray Charitable Trust.