Dewch i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid gyda ni, drwy archwilio straeon rhyfeddol sydd heb eu hadrodd eto yn y gweithdy ysgrifennu creadigol rhad ac am ddim hwn.
Darganfyddwch gymeriadau ac anturiaethau o’ch dychymyg eich hun a ffurfiwch hanesion newydd sbon o ddim.
P’un a ydych chi’n ysgrifennu straeon, caneuon, barddoniaeth, ffuglen cefnogwyr neu fod ysgrifennu yn rhywbeth hollol newydd i chi, bydd Flossy and Boo yn eich helpu i ddarganfod ffyrdd newydd o fynegi eich hun a'ch llais unigryw.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid yn ddiwrnod i gydnabod ieuenctid ar draws y byd a grymuso ieuenctid y byd i wneud cyfraniadau cadarnhaol at eu cymunedau a’u cenhedloedd, a’r thema eleni yw cydlyniad rhwng y cenedlaethau: creu byd i bobl o bob oed.
Hyd y gweithdy: 1 awr
Yn addas i bobl rhwng 14 a 18 oed
Er mwyn cadw lle ar ein gweithdy am ddim, cofrestrwch.
Cyflwynir gan Flossy and Boo ar ran Where We Begin | Dechrau’r Daith.
Ariennir gan grant Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.