Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Carnifal Trebiwt

27 – 28 Awst 2023

Carnifal Trebiwt

27 – 28 Awst 2023

Mae Carnifal Trebiwt yn ôl, ac mae croeso i bawb ddathlu ar benwythnos gŵyl y banc.

I agor y dathliadau, bydd gorymdaith Carnifal fywiog am 12pm ddydd Sul 27 Awst, a fydd yn dechrau o siopau prysur Loudoun Square ac yn teithio ar hyd Bute Street cyn cyrraedd ardal liwgar y Carnifal wrth y Senedd ar Harbour Drive.

Dros ddau ddiwrnod cyffrous bydd pobl yn gallu mwynhau lein-yp gwefreiddiol o berfformiadau cerddoriaeth a dawns. Ymhlith yr actau bydd y talentau lleol Leighton Jones, Zion Road, Anthony Ward, Adjua Sings, Konshuss_One a Luchia.

Ochr yn ochr â’r artistiaid lleol nodedig yma, bydd sêr rhyngwladol fel Hanisha Solomon o Ethiopia, Alogte Oho and His Sounds of Joy o Ghana, Aar Maanta o Somalia ac Earl Sixteen a Horace Andy o Jamaica hefyd yn cymryd i’r llwyfan.

Ar ben hynny, bydd Carnifal yn cynnig gweithdai a gweithgareddau diddorol wedi’u cynllunio’n arbennig i blant, gan sicrhau profiad llawen i bobl o bob oed. Bydd y miri yn digwydd rhwng 1pm a 8.30pm bob dydd – bydd hyn yn benwythnos o ddathlu ac adloniant na ddylid ei golli.

Carnifal yw un o’r nifer o ddigwyddiadau cymunedol mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch o’u cefnogi a’u cyflwyno drwy’r flwyddyn. Gwyliwch ein ffilm newydd i gael blas o’r rhesymau pam ein bod yn ymrwymedig i ddathlu a chyfoethogi bywydau’r rhai sy’n byw ochr yn ochr â ni.

Croniclau Carnifal Trebiwt

DYDDIADAU: 24–31 Awst

LLEOLIAD: Lolfa, gyferbyn â llwyfan y Glanfa

PRIS: Rhad ac am ddim

Mae Carnifal Trebiwt wedi bod yn ddathliad parhaus sydd yn pontio gorffennol a dyfodol ardal liwgar Trebiwt yng Nghaerdydd. Wrth gydweithio yn agos ag Archif Ddarlledu Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Butetown Arts & Culture Association, fe aeth y gwneuthurwr ffilm ac artist digidol Ruslan Pilyarov ar daith gelf ddigidol, a chreu tri fideo hudolus sydd yn cyflwyno natur amlweddog y carnifal.

- Mae tair sgrin â chlustffonau, sy’n rhad ac am ddim i’w defnyddio.

Mewn partneriaeth â Chymdeithas Celf a Diwylliant Trebiwt a Chyngor Celfyddydau Cymru.