Dan arweiniad Anagram, stiwdio greadigol yn y DU a chreawdwyr o GOLIATH: Playing with Reality a'i henwebwyd am Emmy.
Bydd y gweithdy yma yn rhoi cyfle i’r rhai sydd am ddeall mwy am y dirwedd ymdrochol ddatblygu eu gwaith eu hunain, dysgu sgiliau newydd a rhoi cynnig ar arddangosiadau a gweithgareddau ymarferol.
Bydd y gweithdy dau ddiwrnod yn cwmpasu'r canlynol:
- Cyflwyniad i Brofiadau Ymdrochol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
- Deall y tirwedd ymdrochol
- Trosolwg o brosiectau a chwmnïau arweiniol yn y maes
- Profiad ymarferol o roi cynnig ar waith AR (realiti estynedig) a VR (realiti rhithwir)
- Ymchwilio i’r broses o gysyniadu a chreu gwaith ymdrochol
- Datblygu eich prosiect eich hun a thyfu eich syniadau gyda chymorth
Dewch gyda phrosiect mewn golwg – p’un a yw hynny’n syniad cynnar neu’n waith ar ei hanner. Gweithdy gweithredol yw hwn i ddatblygu syniadau.
Gallwch chi ddod ar eich pen eich hun, neu gyda phartner prosiect. Os byddwch chi’n dod fel pâr, e-bostiwch digital.productions@wmc.org.uk ar ôl i chi archebu gyda sgrinlun o’ch archeb ac enw a manylion cyswllt eich partner prosiect.
I bwy mae'r gweithdy hwn?
18+
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu syniad am adrodd straeon digidol.
Pwy yw Anagram?
Stiwdio greadigol arobryn yw Anagram sy'n arbenigwyr mewn adrodd straeon rhyngweithiol pryfoclyd a dylunio profiadau ymdrochol. Gyda chefndir mewn ffilmiau dogfen, animeiddio a dylunio gemau rhyngweithiol, mae'r stiwdio yn arbenigo mewn manteisio i'r eithaf ar y datblygiadau mwyaf diweddar mewn technolegau ymdrochol.
Enillwyr y Grand Jury Prize yng Ngŵyl Ffilmiau Fenis 2021 yn yr adran VR, gwobr Storyscapes Gŵyl Ffilmiau Tribeca 2015, gwobr Sandbox Immersive Art 2019, rhan o Best VR yn 2019 yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis.
Cafodd Anagram ei henwi yn rhestr '100 ones to watch for 2020' CreaTech gan y Cyngor Diwydiannau Creadigol a chafodd ei dewis ddwywaith ar gyfer gwobr Digital Dozen Breakthroughs in Digital Storytelling Prifysgol Columbia (yn 2015 a 2019).
OES ANGEN I MI DDOD AR Y DDAU DDIWRNOD?
Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal dros dau ddiwrnod a rhaid i gyfranogwyr ddod i bob sesiwn rhwng 10.30am a 5pm bob dydd.
Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth?
Syniad.
Ni fydd cinio yn cael ei ddarparu ond bydd lluniaeth ar gael.
Bwrsarïau
Rydyn ni'n gallu cynnig un lle bwrsari i gwmpasu cost y gweithdy hwn (ar gyfer unigolyn neu bâr prosiect). Os hoffech chi gael gwybod mwy am hyn, e-bostiwch digital.productions@wmc.org.uk
Hygyrchedd
Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, cysylltwch â digital.productions@wmc.org.uk pan fyddwch chi'n archebu.
Rhybuddion
Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir. Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd i unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd â namau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, trawiadau, salwch teithio neu byliau llewygu.
Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.