Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac mae deg aderyn wedi cymryd drosodd yr adeilad. Mae angen eich help arnom i ddod o hyd iddyn nhw!
Ydych chi’n chwilio am weithgaredd Pasg i blant? Archwiliwch lwybr Canolfan Mileniwm Cymru i ddod o hyd i’r adar sydd wedi ymgartrefu mewn lleoliadau gwahanol.
Prynwch daflen o Siop am £1.50 ac ewch i ddod o hyd i’r adar. Unwaith y byddwch chi wedi gorffen, dychwelwch eich taflen i Siop i hawlio gwobr.