Oes gennych chi hoffter o gelf? Ydych chi rhwng 14 a 21 oed? Dyma’r cyfle i chi!
I ddechrau 2023 mewn ffordd greadigol, mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi partneru â Fio a’r Artichoke Trust i gyflwyno cyfres o weithdai celf cyffrous RHAD AC AM DDIM!
Bydd y pedwar gweithdy yng Nghaerdydd yn canolbwyntio ar y thema 'The State We're In’. Byddwch chi’n archwilio dulliau gwahanol o greu gwaith gan gynnwys digidol, collage, darluniadau a dylunio graffeg. Bydd y sesiynau yn eich galluogi i greu eich gwaith celf gwych eich hunain a fydd yn cael ei arddangos yn oriel ar-lein Artichoke ac yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Ble?
Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Pryd?
Gweithdy 1 - Dydd Mawrth 17 Ionawr, 5-7pm
Gweithdy 2 - Dydd Iau 19 Ionawr 5-7pm
Gweithdy 3 - Dydd Mawrth 24 Ionawr 5-7pm
Gweithdy 4 - Dydd Gwener 27 Ionawr 5-7pm
(Peidiwch â phoeni os na allwch chi ddod i bob un – rhowch wybod i Fio drwy ddefnyddio’r ffurflen isod)
Pwy sy’n arwain?
Caiff y gweithdai eu harwain gan Cara Walker (Cydymaith Creadigol Fio) gyda chymorth gan Sita Thomas (Cyfarwyddwr Artistig Fio).
Cofrestrwch i gadarnhau eich lle yma. (Ffurflen Saesneg yn unig)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Fio drwy e-bostio producer@wearefio.co.uk