Ydych chi rhwng 14 a 17 oed, ac yn ymddiddori mewn creu theatr sy’n berthnasol i’r byd rydych chi’n byw ynddo heddiw?
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi rhaglen theatr ieuenctid newydd sbon am ddim, lle byddwch chi’n dysgu sgiliau theatr a pherfformio newydd mewn gofod cyfeillgar a chynhwysol.
Yn ystod y rhaglen, byddwch chi’n datblygu eich dealltwriaeth o’r holl elfennau sy’n rhan o greu gwaith theatr da – o ymchwilio a datblygu syniadau, i gynllunio setiau a rhoi perfformiad o fri.
Ymarferwyr proffesiynol fydd yn arwain y cwrs, a byddant wrth law i rannu eu safbwyntiau unigryw o fyd y theatr, gan roi’r man cychwyn perffaith i chi i ddiwylliant celfyddydol ffyniannus Cymru.
AR GYFER PWY MAE’R CWRS?
Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw un rhwng 14 ac 17 oed o bob cefndir ledled Cymru, ac maen nhw ar lefel mynediad – wedi’u hanelu at y chwilfrydig, dechreuwyr, neu bobl ifanc sy’n dymuno adnewyddu eu sgiliau.
Er mwyn cadw lle ar ein cwrs am ddim, cofrestrwch.
PRYD?
Bob dydd Llun, 5pm – 7pm dros deuddeg wythnos, yn cychwyn 26 Medi 2022.
Unwaith i chi gofrestru byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y cwrs.
Cynhelir deuddeg sesiwn ar y dyddiadau canlynol: 23 Ionawr, 30 Ionawr, 6 Chwefror, 13 Chwefror, 20 Chwefror, 27 Chwefror, 6 Mawrth, 13 Mawrth, 20 Mawrth, 27 Mawrth, 3 Ebrill a 10 Ebrill 2023, a bydd angen i chi fynychu bob un. Ychwanegwch un tocyn i'ch basged i archebu'ch lle ar y cwrs cyfan.
Os yw'r cwrs hwn wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.
AM EIN CYRSIAU LLAIS CREADIGOL
Mae Llais Creadigol yn rhaglen unigryw sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc archwilio’u diddordebau, mynegi eu hunain, datblygu hyder creadigol a dysgu sut i rannu eu storïau drwy brofiadau dysgu ymarferol.
Ariennir y gweithgaredd hwn gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.