Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Platfform

Comics a Nofelau Graffig

14 – 25 oed

Canolfan Mileniwm Cymru

17 Ebrill – 22 Mai 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Comics a Nofelau Graffig {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2169

Platfform

Comics a Nofelau Graffig

14 – 25 oed

17 Ebrill – 22 Mai 2024

Canolfan Mileniwm Cymru

Dysga sut i adrodd dy stori mewn geiriau a lluniau yn y cwrs rhad ac am ddim yma.

Mae comics yn unigryw. Dyma’r unig ffurf lle galli di fod yn gyfarwyddwr, person camera, actor a sgriptiwr, gan ddefnyddio offer mor syml â phensil a phapur. O stribedi comics ar ffurf dyddiadur personol iawn i nofelau graffig ffuglen-wyddonol epig, mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd!

Yn y cwrs yma, byddi di’n cael cyflwyniad i rannau comics ac yn dysgu ffyrdd o adrodd straeon yn weledol. Byddwn ni’n archwilio’r broses o gynhyrchu comics, o’r sgript i’r dudalen derfynol. Gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, byddi di’n creu stribedi comics ac yn gorffen y cwrs gyda comic dau dudalen dy hun.

Byddwn ni hefyd yn trafod busnes comics, gwerthu dy nofel graffig a sut y galli di rannu dy waith – yn ddigidol, yn ffisegol a thu hwnt.

Mae croeso i bob lefel sgil. P’un a wyt ti’n ddechreuwyr llwyr neu’n arlunydd hyderus, os wyt ti’n chwilfrydig am comics ac eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd o adrodd straeon, dyma’r cwrs i ti.

Pwy sy'n addysgu'r cwrs?

Arlunydd comics ac awdur â chefndir mewn darlunio ac animeiddio yw Sarah Millman. Graddiodd o UWE Bryste gyda gradd mewn Darlunio yn 2011, ac ar ôl hynny cwblhaodd radd Meistr mewn Animeiddio ym Mhrifysgol Morgannwg yn 2012. Ers hynny mae wedi gweithio fel arlunydd llawrydd, gyda chleientiaid o’r diwydiannau comics a gemau.

Mae’n adnabyddus am ei chyfres comics annibynnol NPC Tea, a gafodd ei hariannu drwy gyllido torfol ar Kickstarter yn 2020. Yn ogystal â gwerthu ei gwaith mewn cynadleddau a digwyddiadau ledled y wlad, mae hefyd yn addysgu gweithdai comics mewn prifysgolion a llyfrgelloedd i blant ac oedolion o bob oed. Mae’n dwli ar gyflwyno pobl i’r byd comics a helpu arlunwyr o bob lefel sgil i adrodd straeon.

Oes angen unrhyw sgiliau neu brofiad arna i er mwyn cymryd rhan?

Nac oes – mae’r cwrs yma yn agored i bob lefel a gallu.

Pryd mae'r cwrs?

Mae’r cwrs yn rhedeg bob dydd Mercher rhwng 4.30pm a 6.30pm am chwe wythnos o 17 Ebrill i 22 Mai. 

Sut ydw i'n archebu?

Archeba dy le drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwna'n siŵr dy fod yn gallu dod i bob sesiwn o’r cwrs dros y chwe wythnos. 

Os yw'r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanega dy fanylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

Ein cyrsiau Platfform

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru