Bydd y cwrs hyfforddi dwys dau ddiwrnod rhad ac am ddim yma yn eich addysgu chi sut i greu rhaglen radio neu bodlediad.
Byddwch chi’n dysgu am y gwahanol fathau o gynnwys radio, sut i ddod o hyd i straeon newyddion a sut i’w creu, ac yn gwneud recordiadau o ansawdd o’ch cartref. Gallwch chi roi cynnig ar gyflwyno, cyfweld a thrafod materion sy’n bwysig i chi. P’un a ydych chi’n dwli ar radio a phodlediadau, neu erioed wedi rhoi cynnig ar y cyfrwng o’r blaen, mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio i’ch cefnogi a’ch annog, beth bynnag fo’ch lefel.
Caiff y cwrs yma ei gyflwyno’n ddwyieithog, mewn cymysgedd o Gymraeg a Saesneg. Bydd ein hyfforddwyr yn eich cefnogi i gwblhau’r elfennau ymarferol yn eich dewis iaith. Os byddwch chi’n dewis cwblhau’r llawlyfr yn Gymraeg, caiff eich atebion eu cyfieithu ar gyfer ein hachredwr.
OES ANGEN UNRHYW SGILIAU NEU BROFIAD ARNA I ER MWYN CYMRYD RHAN?
Nac oes – mae’r cwrs yma ar agor i bob lefel a gallu.
PRYD MAE’R CWRS?
Mae’r cwrs yn rhedeg am ddau ddiwrnod, rhwng 11am a 4pm ddydd Mercher 3 Ebrill a dydd Iau 4 Ebrill.
SUT YDW I’N ARCHEBU?
Archebwch eich lle drwy glicio ar y botwm archebu ar y dudalen yma. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gallu dod i ddau ddiwrnod y cwrs.
Os yw’r cwrs yma wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni cysylltu os bydd lle ar gael.
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.
Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.