Gallwch chi archebu tocynnau drwy’r dudalen Digwyddiadur, dros y ffôn 12pm – 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 029 2063 6464 neu wyneb yn wyneb yn ein Siop (gweler ein hamseroedd agor).
Gallwch chi ddod o hyd i’ch archebion diweddaraf, eich aelodaethau a mwy pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’ch cyfrif.
Gallwch chi ddod o hyd i atebion cwestiynau cyffredin am docynnau yn ein hadran Cwestiynau Cyffredin ond os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, gallwch chi gysylltu drwy ein gwe-sgwrs 10am – 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cyfnewid tocynnau ar-lein am ddim
Angen symud eich tocynnau i ddyddiad neu amser arall, neu newid eich seddi'n gyfan gwbl? Rydyn ni wedi hwyluso'r broses yma fel y gallwch chi gyfnewid eich tocynnau ar-lein. Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein hyd at 24 awr cyn sioe i gyfnewid eich tocynnau am ddim i berfformiad gwahanol o’r un cynhyrchiad neu dymor Opera Cenedlaethol Cymru (yn amodol ar argaeledd). Os ydych chi wedi prynu diogelwch ad-daliad Booking Protect, caiff hyn ei symud i’ch dyddiad newydd. Dyma ganllaw cam wrth gam ar sut i wneud hyn.
Gallwch chi hefyd gyfnewid tocynnau dros y ffôn neu yn Siop am £2.50 fesul tocyn (uchafswm o £10).
Archebion grŵp
P'un a ydych chi’n trefnu noson gyda theulu neu ffrindiau, yn cynllunio digwyddiad cymdeithasol gyda gwaith neu drip gyda'ch pentref; rydyn ni yma i sicrhau bod gwneud archeb i 10 person neu fwy mor syml â phosibl.