Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Croeso i Ffwrnais. Eich porth newydd i’r celfyddydau. 

Fel bar-caffi amlbwrpas yng nghanol Bae Caerdydd sy’n gweini lluniaeth o frecwast i ddiod noswylio, Ffwrnais yw’r lle perffaith i weithio, cyfarfod, ymlacio – ac wrth gwrs, dreulio noson gofiadwy gyda ni.

Lle i weithio

Yn chwilio am le newydd i weithio o bell? Gallwn ni helpu. Gyda Wi-Fi rhad ac am ddim, coffi gwych a phwyntiau gwefru pen bwrdd, rydych chi’n siŵr o gael diwrnod gwaith cynhyrchiol gyda ni.

Gallwch chi gael 11 awr o barcio am £5 yn Q-Park pan fyddwch chi'n rhag-archebu man parcio ar-lein. Mewngofnodwch i'ch cyfrif, dewiswch 'Archebu man parcio' ac yna archebwch ar gyfer y dyddiad perthnasol. 

Bwyd a diod

O goffi Quantum i gacennau Pettigrew a jin botanegol, mae Ffwrnais yn dathlu cynhyrchion artisan a chreadigrwydd Cymreig ym mhob ffurf. 

Ymunwch â ni am frecwast rhwng 9am a 10am i gael coffi a chacen flasus am £5.

Yn sychedig? Edrychwch ar ein bwydlen diodydd sy’n cynnwys amrywiaeth eang o gwrw, gwirodydd a diodydd dialcohol a gynhyrchir yn lleol. Os byddwch chi'n parhau eich noson gyda ni ar ôl gweld sioe, gallwch chi fwynhau gostyngiad o 10% ar eich diodydd. Iechyd da!  

Mae aelodau’n cael mwy. Dewch yn aelod Ffrind heddiw i gael gostyngiad o 20% ar ddiodydd yn Ffwrnais, Caffi a’n bariau theatr. 

Gan ein bod yn elusen, mae popeth a brynwch yn Ffwrnais yn helpu i ariannu ein cenhadaeth i roi mwy o fynediad i’r celfyddydau i’r rhai sydd ei angen fwyaf. 

Arddangosfeydd

Dewch i gael eich ysbrydoli gan arddangosfeydd gan artistiaid o Gymru ac sy’n byw yng Nghymru yn Ffwrnais, ac ymlaciwch ymhlith ein clustogau a ddyluniwyd yn arbennig gan y gwehydd llaw lleol Llio James.

Diolch yn fawr i Viewport Studio a ddyluniodd ein gofodau newydd a’r cwmni adeiladu lleol Powell a ddaeth â nhw’n fyw.