Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dylunydd tecstiliau Llio James

Camwch i mewn i’n gofod blaen y tŷ newydd, sef Ffwrnais, a byddwch chi’n ymlacio ymhlith ein clustogau prydferth. Cafodd y dyluniadau trawiadol yma eu creu yn arbennig ar gyfer ein lolfa a bar newydd gan y dylunydd a gwehydd Llio James.

Gwnaethom ni ymweld â Llio yn ei stiwdio yn Y Sblot, a rhannodd hi ei hysbrydoliaeth ar gyfer ein clustogau, y broses o ddylunio a’i hymateb i’w gweld nhw yn eu lle yng nghanolfan gelfyddydau genedlaethol Cymru.

Mae’r gwaith a welir yn Ffwrnais yn gorff newydd o waith a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru. Wedi’i hysbrydoli gan faneri signalau morwrol, canolbwyntiodd Llio ar faneri sy’n cynrychioli CMC (Canolfan Mileniwm Cymru), WMC (Wales Millennium Centre) a CF (sef cofrestriad cychod pysgota Bae Caerdydd). Yn adnabyddus am ei onglau a siapiau geometrig llym a chyferbyniol, mae’r ffabrig wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer clustogau mewn palet o liw cyfoes a ffres. Mae’r gwaith hefyd wedi’i adlewyrchu mewn darnau o gelf gan Llio a welir o gwmpas yr adeilad.

Mae’r darnau wal wedi’u hysbrydoli gan ddyluniadau brethyn Cymreig traddodiadol gan ddefnyddio palet lliw ein hadeilad, gan dalu sylw arbennig i’r to copr ocsidiedig a’r waliau llechi.

Graddiodd Llio James, sydd yn wreiddiol o Dal-y-bont, Ceredigion, o Ysgol Gelf Manceinion (2009) mewn gwehyddu, ac mae ganddi radd meistr mewn Dylunio: Ffasiwn a Thecstiliau o Brifysgol Bath Spa. Ers hynny mae Llio wedi gweithio o fewn y diwydiant tecstiliau yn Efrog Newydd, yr Alban, Lloegr a Chymru. Mae bellach yn gweithio o’i stiwdio yng Nghaerdydd ac yn defnyddio gwŷdd dobi traddodiadol. Mae’n dylunio’r brethyn yn y stiwdio a chaiff ei gynhyrchu mewn melinau lleol yng Nghymru a Lloegr.

Gellir gweld gwaith Llio ar-lein yn www.lliojames.com