Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni’n gartref creadigol i bawb ac rydyn ni am i'n gofodau fod yn hygyrch i bawb.

Rydyn ni’n gweithio’n galed i ddileu rhwystrau fel bod eich amser gyda ni mor hawdd â phosibl. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae croeso i gŵn cymorth. 

Ymunwch â chynllun hygyrchedd

Os ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad, gallwch chi gael gafael ar docynnau am ddim ar gyfer gofalwyr a chymheiriaid drwy’r cynllun hygyrchedd cenedlaethol Hynt.

Dysgwch fwy am Hynt

Perfformiadau hygyrch

Rydyn ni am i gynifer o bobl ag sy'n bosibl fwynhau theatr ac adloniant byw, felly rydyn ni'n cynnig perfformiadau ymlaciedig a pherfformiadau hygyrch pan fyddwn ni’n gallu.

Dysgwch fwy am ein perfformiadau hygyrch

 

Ein cyfleusterau hygyrch

Dimensiynau seddi

Theatr Donald Gordon

Mae seddi 19 modfedd ar led a’r dyfnder yw 16 modfedd. Uchder y seddi yw tua 18 modfedd o’r llawr i ben y sedd.

Mae lle cyfyng i goesau wrth y seddi canlynol:

Mesuriadau Rhes A 35–38 yw isafswm 47cm, 47cm, 49cm, 49cm

Mesuriadau Rhes C 27–30 yw isafswm 23cm, 25cm, 26cm, 26cm

Mesuriadau Rhes G 27–30 yw isafswm 35cm

Mannau parcio Bathodyn Glas

Mae 14 o fannau parcio dan do ar gael ar gyfer ymwelwyr anabl, i'w harchebu o flaen llaw. Gellir eu cyrraedd o Stryd Pierhead ar ochr yr adeilad.

Mae tri slot amser ar gael i'w harchebu: 8am – 12pm; 12.30pm – 5pm; a 5.30pm tan yr amser cau.

Oherwydd galw mawr, bydd tâl o £5 ar gyfer bob man parcio pan fydd perfformiadau yn Theatr Donald Gordon, Stiwdio Weston, Cabaret a Neuadd Hoddinott y BBC.

Rhaid archebu man parcio o flaen llaw wrth brynu eich tocynnau. Rhaid nodi rhif eich bathodyn glas i archebu lle a chael mynediad i'r safle.

*Nid yw'r maes parcio anabl yn addas ar gyfer bysiau mini. Fodd bynnag, mae 12 o fannau parcio bathodyn glas am ddim ar gael ar hyd Plas Bute ar gyfer cerbydau mwy.

Mae 92 o fannau parcio anabl eraill ar gael, chwech ar bob lefel, ym maes parcio Q-Park Bae Caerdydd ar Stryd Pierhead.

Llefydd i gadeiriau olwyn

THEATR DONALD GORDON

Mae hyd at 22 o lefydd i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn yn y prif awditoriwm, yn y seddi blaen a'r seddi blaen uwch, y cylch a'r cylch uchaf.

Wrth archebu lle ar gyfer cadair olwyn rhowch wybod i'r swyddfa docynnau am unrhyw ofynion arbennig, gan gynnwys cymdeithion. Y graddiant i'r theatr yw 1:20.

STIWDIO WESTON

Un fynedfa gyhoeddus yn unig sydd i Stiwdio Weston, ar Lefel 1 ar ochr ddeheuol yr adeilad a gellir ei chyrraedd drwy fynd â’r lifft i Lefel 1. Mae mynedfa’r stiwdio yn wastad ac mae un toiled neillryw hygyrch gerllaw.

Ni ellir archebu seddi penodol yn Stiwdio Weston, ac mae yna le ar gyfer pedwar person sy’n defnyddio cadair olwyn â dau gydymaith yr un, ar y llawr gwastad o flaen y seddi esgynnol.

CABARET

Mae gan Cabaret ei fynedfa allanol ei hun ar y llawr gwaelod, ar ochr ddeheuol yr adeilad, wedi’i gorchuddio â brand Cabaret. Nid yw'r seddi yn Cabaret wedi'u cadw ac mae lle i hyd at ddau ddefnyddiwr cadair olwyn. 

Mae toiled hygyrch neillryw o fewn y toiledau niwtral o ran rhywedd yn Cabaret.

Toiledau hygyrch

LLAWR GWAELOD

Mae yna doiledau neillryw hygyrch trosglwyddo i'r dde ac i'r chwith.

Mae toiled Lleoedd Newid hefyd wedi'i leoli ar y llawr gwaelod, sydd â theclyn codi a mainc newid i oedolion sy'n gallu cael ei haddasu.

Mae digon o le yn yr ardal newid i'r unigolyn a hyd at ddau ofalwr, ac mae toiled wedi'i osod yn ganolog fel bod digon o le bob ochr.

Mae toiled neillryw hygyrch trosglwyddo i’r chwith o fewn y toiledau niwtral o ran rhywedd yn Cabaret, sydd ar y llawr gwaelod ar ochr ddeheuol yr adeilad. Mae gan y lleoliad hwn ei fynedfa allanol ei hun.

Y LEFELAU UCHAF

Mae toiledau trosglwyddo i'r dde wedi'u lleoli i'r chwith i'n bar-caffi Ffwrnais (rhifau seddi 1–28), balconïau A, C, E a G a bocsys A a C.

Mae tai bach trosglwyddo i'r chwith wedi'u lleoli i'r dde i'n bar-caffi Ffwrnais (rhifau seddi 29–55), balconïau B, D, F a H a bocsys B a D.

Ystafell dawel

Mae ein hystafell dawel wedi’i lleoli ar y llawr gwaelod yn ardal y Glanfa. Os bydd angen rhywfaint o dawelwch arnoch neu os byddwch chi’n teimlo wedi eich llethu yn ystod eich ymweliad, neu os byddwch chi’n chwilio am rywle preifat i eistedd a myfyrio, bwydo o’r fron neu weddïo, gofynnwch i aelod o staff a fydd yn gallu ei hagor i chi.

Benthyg Cadair Olwyn

Mae gennym ni nifer o gadeiriau olwyn i'w benthyg ar gais. Gallwch ofyn am y rhain drwy'r swyddfa docynnau drwy ebostio hygyrchedd@wmc.org.uk, neu gofynnwch i aelod o staff wrth gyrraedd, er na allwn sicrhau y bydd un ar gael.

Benthyg Clustffonau i Godi’r Sain

P’un a oes gennych chi declyn cymorth clyw ai peidio, mae gennym ni glustffonau 'dwbl' dros y glust neu glustffonau 'sengl' yn y glust ar gael. Gellir casglu clustffonau o'r ystafell gotiau yn Siop.

Cymorth meddygol

Mae gennym ni lawer o aelodau o staff sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf, felly os oes angen cymorth arnoch chi ar unrhyw adeg, gofynnwch i aelod o staff a fydd yn gallu galw am y person perthnasol.

Cŵn cymorth

Os ydych chi'n dod i weld perfformiad, gallwch chi fynd â'ch ci i fewn i'r theatr gyda chi. Gallwch chi archebu tocyn ar gyfer un o'r seddi hygyrch yn nghefn seddi'r llawr neu’r cylch os hoffech chi gael mwy o le ar gyfer eich ci.

Fel arall, rydyn ni'n hapus i ofalu am eich ci tra eich bod chi’n gwylio perfformiad. Gofynnwch am un o'r opsiynau yma wrth archebu tocynnau.