Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Drwy gefnogi Canolfan Mileniwm Cymru drwy ein cynlluniau aelodaeth, rydych yn cytuno i gadw at y Telerau ac Amodau Aelodaeth a nodir isod.

Rydych hefyd yn caniatáu i Ganolfan Mileniwm Cymru gysylltu â chi dros y ffôn, drwy'r post a thrwy e-bost gyda gwybodaeth am ein gwaith, sioeau sydd ar ddod a digwyddiadau.

Os penderfynwch ar unrhyw adeg y byddai'n well gennych beidio â derbyn gwybodaeth o'r fath, cysylltwch â'r tîm datblygu drwy e-bostio datblygu@wmc.org.uk neu drwy ffonio 029 2063 6467.

CYMHWYSEDD A BUDDION AELODAETH

  1. CYFFREDINOL

    1.1. Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i newid neu amrywio gwerth y rhoddion a awgrymir ar gyfer aelodaeth Partner neu aelodaeth Partner Awen.
    1.2. Nid yw aelodaeth na'i holl fuddion yn drosglwyddadwy.
    1.3. Mae aelodau'n ymrwymo i gontract 12 mis.
    1.4. Gellir canslo aelodaeth o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad cofrestru, ond dim ond os na ddefnyddiwyd unrhyw fuddion.
    1.5. Mae aelodaeth ar y cyd ar gyfer dau oedolyn sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Bydd y ddau aelod yn cael cerdyn aelodaeth digidol, yn gallu prynu tocynnau yn ystod y cyfnod archebu â blaenoriaeth ac yn gallu manteisio ar gynigion a phrisiau gostyngedig.
    1.6. Dim ond at aelodau gweithredol (gan gynnwys y rheiny sydd angen adnewyddu eu haelodaeth) y caiff negeseuon eu hanfon drwy e-bost. Pan rydych chi’n prynu aelodaeth ar y cyd, dim ond un cyfathrebiad fesul tŷ byddwn ni'n ei anfon, oni bai eich bod ill dau'n dewis derbyn cyfathrebiad ar wahan.
    1.7. Caiff negeseuon ynghylch sioeau sydd ar ddod, digwyddiadau a'n gwaith eu hanfon yn ddwyieithog. Fodd bynnag, bydd gohebiaeth bersonol â'r tîm datblygu yn Saesneg yn bennaf. 
    1.8. Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i dynnu buddion yn ôl ar unrhyw adeg a heb rybudd ymlaen llaw.
    1.9. Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i wneud newidiadau i'n cynlluniau aelodaeth heb rybudd ymlaen llaw.
    1.10. Mae telerau ac amodau gwerthu cyffredinol Canolfan Mileniwm Cymru yn gymwys i'n pecynnau aelodaeth.
    1.11. Cadwn yr hawl i gysylltu â chi am y modd y mae eich rhodd yn cefnogi ein gwaith a sut y gallech ein cefnogi ymhellach.

  2.  CYMHWYSEDD

    2.1. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i wneud cais am aelodaeth neu i adnewyddu aelodaeth.
    2.2. Rhaid i ymgeisiwyr a derbynwyr rhodd o aelodaeth ar y cyd fod yn ddau oedolyn sy’n byw o dan yr un cyfeiriad a byddant yn derbyn un cyfathrebiad fesul cartref, oni bai i'r ddau ofyn am ohebiaeth ar wahân.
    2.3. Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i wrthod cais am aelodaeth neu derfynu aelodaeth ar unrhyw adeg os byddwch yn camymddwyn neu'n ymddwyn yn annerbyniol ar safle Canolfan Mileniwm Cymru, mewn digwyddiad a gynhelir ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru neu ar-lein. Mae'n bosibl y cymerir camau cyfreithiol hefyd.
    2.4 Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i wrthod cais am aelodaeth neu derfynu aelodaeth oherwydd gweithredoedd o gamymddygiad neu ymddygiad annerbyniol sy’n dod â gwarth i enw da Canolfan Mileniwm Cymru, yn cynnwys ar-lein. Mae'n bosibl y cymerir camau cyfreithiol hefyd.
    2.5. Os bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn terfynu aelodaeth yn unol â chymal 2.3 neu 2.4, ni roddir ad-daliad i'r aelod hwnnw am gost ei aelodaeth am unrhyw gyfnod sy'n weddill o'r aelodaeth honno.

  3.  BUDDION PARTNER

    3.1. Bydd archebu â blaenoriaeth ar gael pan y mae’n bosibl. Pan nad yw'n bosib bydd seddi ecsgliwsif ar gael i aelodau. Bydd modd archebu'r seddi hyn am gyfnod cyfyngedig.
    3.1.1 Mae mynediad i'r seddi gorau cyn ein haelodau Ffrind a Ffrind+ yn ddibynnol ar gytundeb â'r cwmnïau teithio allanol.
    3.1.2 Rhaid i aelodau Partner archebu'u tocynnau ar-lein.
    3.1.3 Bydd aelodau yn derbyn cyhoeddiadau sioeau, diweddariadau a gwybodaeth am docynnau drwy e-bost lle bynnag sy'n bosibl.
    3.2. Mynediad i Copr, ein lolfa a bar preifat i aelodau. Gweler 5.
    3.3. Gostyngiad o 20% yn ein Caffi, Cabaret, Teras, Ffwrnais a'n bariau theatr. Ni ellir defnyddio’r gostyngiad yma ar y cyd ag unrhyw gynnig arall. Gellir hawlio'r gostyngiad gyda'n cerdyn aelodaeth digidol.
    3.4. Cynhelir digwyddiadau arbennig drwy gydol y flwyddyn. Rhoddir gwybod i aelodau unwaith y caiff dyddiadau a manylion eu cadarnhau. Fel arfer bydd y digwyddiadau yn gysylltiedig â'n cynyrchiadau teithiol neu ein cynyrchiadau mewnol, ond gallent ymwneud ag arddangosfa, ymgyrch codi arian neu ddathliad cyffredinol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru hefyd.
    3.5. Mae croeso i aelodau ddod â gwesteion i ddigwyddiadau; un gwestai ar gyfer aelodau unigol a dau ar gyfer aelodau ar y cyd. Fel arfer croesawir gwesteion ychwanegol am rodd awgrymedig; cyfathrebir hyn cyn y digwyddiad.

  4. BUDDION PARTNER AWEN
    Yn cynnwys yr holl delerau ac amodau ar gyfer aelodau Partner, yn ogystal â'r canlynol:

    4.1. Caiff pob aelod newydd ei wahodd i gymryd rhan mewn taith dywys y tu ôl i'r llenni. Rhaid hawlio'r daith o fewn blwyddyn gyntaf yr aelodaeth a dim ond i'r rhai sy'n ymuno â'r cynllun aelodaeth am y tro cyntaf y mae ar gael.
    4.2. Mae hawl gan aelodau Partner Awen i wasanaeth archebu personol, sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 4pm, yn amodol ar argaeledd staff.* Os na allwch gysylltu, ebostiwch cefnogwyr@wmc.org.uk a bydd rhywun o'r Tîm Datblygu yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith. 
    4.3. Dim ond pan fydd seddi ar gael ac yn unol â thelerau ac amodau Opera Cenedlaethol Cymru y ceir mynediad i'r seddi gorau ar gyfer perfformiadau Opera Cenedlaethol Cymru cyn ein haelodau Ffrind a Ffrind+ a'n haelodau Partner.

  5.  COPR – BAR A LOLFA I AELODAU

    5.1. Dim ond ar gyfer perfformiadau yn Theatr Donald Gordon y mae'r lolfa breifat i aelodau ar gael ac nid yw ar gael ar gyfer perfformiadau yn Stiwdio Weston, Cabaret a mannau perfformio eraill nac mewn mannau cyhoeddus, oni chytunir yn wahanol.
    5.2. Dylai aelodau gadw lle yn y lolfa wrth brynu'u tocynnau. Os oes angen i chi roi gwybod i ni eich bod yn dymuno defnyddio'r lolfa rywbryd arall, rhaid i chi e-bostio neu ffonio'r tîm datblygu o leiaf 24 awr cyn eich ymweliad.
    5.3. Oni nodir yn wahanol, bydd y lolfa i aelodau ar agor am awr cyn i'r sioe ddechrau ac yn ystod yr egwyl gyfan.
    5.4. Caniateir i aelodau ddod â hyd at dri gwestai gyda nhw gydag aelodaeth unigol, a hyd at chwe gwestai gydag aelodaeth ar y cyd.
    5.5. Rhaid i westeion fod yng nghwmni aelod gweithredol ar bob adeg ac ni chaniateir iddynt ddefnyddio'r lolfa pan fyddant yn ymweld â' Chanolfan Mileniwm Cymru heb fod aelod yn bresennol.
    5.6. Rhaid i aelodau archebu lle ar gyfer gwesteion yn ein lolfa o leiaf 24 awr cyn eu hymweliad. Gall westeion ond gael mynediad drwy aelod Partner /Partner Awen.
    5.7. Cadwn yr hawl i ddirymu mynediad i'r lolfa breifat i aelodau ar unrhyw adeg.
    5.8. Os oes llai na chwe aelod yn defnyddio'r lolfa a bar preifat i aelodau, ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i ofyn i chi archebu ymlaen llaw ac mae'n bosibl na fydd staff yn y lolfa.
    5.9. Dim ond hyn a hyn o bobl all fod yn y lolfa breifat i aelodau, a chaniateir i bobl ei defnyddio ar sail y cyntaf i'r felin. Unwaith y bydd y lolfa'n llawn, ni fydd aelodau ychwanegol yn gallu ei defnyddio.
    5.10 Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn ymrwymedig i gynnig amgylchedd diogel, parchus a chroesawgar i bawb – ein haelodau, cefnogwyr, ymwelwyr a staff – a bydd yn gweithredu os bydd unrhyw un yn profi sylwadau tramgwyddus neu ymddygiad bygythiol o unrhyw fath ar ein safle.

6. CYMALAU BUDDION CYFFREDINOL

6.1. Bydd yr holl fuddion i aelodau yn para am flwyddyn (oni nodir yn wahanol).
6.2. Sylwer y gallwch ddiweddaru eich manylion a'ch dewisiadau ar unrhyw adeg drwy fynd i'ch cyfrif aelodaeth ar-lein neu drwy gysylltu â ni.
6.3. Nid yw eich aelodaeth ag enw yn drosglwyddadwy, oni chytunir yn wahanol.
6.4. Mae cynigion i aelodau ar gael ar y ddau bris tocyn uchaf lle y bo'n bosibl, ac eithrio perfformiadau un noson, oni nodir yn wahanol.
6.5. Ni ellir cyfuno cynigion aelodau ag unrhyw gynigion, gostyngiadau na chonsesiynau eraill ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer tocynnau a brynwyd eisoes.
6.6. Mae tocynnau, gostyngiadau a chynigion arbennig eraill oll yn amodol ar gytundeb y cwmni teithiol ac argaeledd.
6.7. Ni ellir hawlio gostyngiadau ar docynnau wrth archebu tocynnau drwy asiantaethau tocynnau eraill.
6.8. Yn ystod y cyfnod cyfnod archebu â blaenoriaeth gall aelodau unigol brynu uchafswm o bedwar tocyn a gall aelodau ar y cyd brynu uchafswm o wyth tocyn fesul perfformiad. Perfformiadau Theatr Donald Gordon yn unig.
6.9. Gellir archebu rhagor o docynnau yn ystod y cyfnod gwerthu i'r cyhoedd, yn amodol ar gyfyngiadau tocynnau arferol.
6.10. Mae'r cyfnod archebu â blaenoriaeth yn para o leiaf 24 awr fel arfer ond, os nad yw hyn yn bosibl, bydd dyraniad ychwanegol o seddi yn cael ei gadw i aelodau am gyfnod cyfyngedig.
6.11. Dim ond yr unigolyn/unigolion a enwir ar y cerdyn sy'n gallu hawlio gostyngiadau.
6.12. Ni ellir hawlio gostyngiadau ar nwyddau trwyddedig sioeau, megis crysau T a CDs.

  1.  YMUNO AC ADNEWYDDU

    7.1. Sut i ymuno
    7.1.1. Gellir gwneud cais am aelodaeth newydd ar-lein yn www.wmc.org.uk/cy/ymuno-a-rhoi/aelodaeth-ffrind-a-ffrind/, drwy ffonio 029 2063 6423 neu drwy e-bostio datblygu@wmc.co.uk
    7.1.2. Gellir adnewyddu aelodaeth ar-lein drwy fewngofnodi i'ch cyfrif aelod ar-lein.

    7.2. Talu 
    7.2.1. Gellir talu drwy ddefnyddio Debyd Uniongyrchol, cerdyn credyd neu gerdyn debyd.
    7.2.2. Dim ond dros y ffôn y gellir trefnu i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol: 029 2063 6423.
    7.2.3. Pan yn talu gyda Debyd Uniongyrchol, byddwn yn cymryd eich taliad misol ar y 1af o bob mis. Rydym yn casglu taliadau aelodaeth ymlaen llaw, felly mae'n debygol y bydd swm eich taliad cyntaf yn fwy. 
    7.2.4. Pan yn talu gyda Debyd Uniongyrchol, bydd eich aelodaeth yn dechrau o'r dyddiad cofrestru. Os byddwch yn cofrestru cyn hanner nos ar y 9fed o'r mis byddwn yn cymryd taliad ar y 1af o'r mis nesaf. I bobl sy'n cofrestru ar ôl y 10fed o'r mis, byddwn yn cymryd taliad ymhen dau fis. Byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost cyn cymryd taliad. 
    7.2.5. Sylwer na chaiff talebau elusen na dulliau talu eraill eu derbyn ar gyfer tanysgrifiadau aelodaeth yn unol â chanllawiau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

    7.3. Canslo ac ad-daliadau
    7.3.1. Mae bod yn aelod o Ganolfan Mileniwm Cymru yn fath o rodd elusennol. Unwaith y bydd pris aelodaeth wedi'i dalu'n llawn ac y bydd cerdyn wedi'i gyflwyno, ni ellir cynnig ad-daliadau.
    7.3.2. Aelodaeth blwyddyn o hyd yw hon gyda rhwymedigaeth i gwblhau'r amserlen talu. Os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol misol ac yn canslo eich aelodaeth yn ystod y flwyddyn, mae'n rhaid i chi dalu'r balans sy'n weddill o hyd.
    7.3.3. Bydd buddion aelodaeth yn ddilys tra bydd eich aelodaeth yn weithredol a byddant yn dod i ben pan gaiff aelodaeth ei chanslo neu os na chaiff ei hadnewyddu cyn y dyddiad dod i ben fel y dangosir yn 'Fy Nghyfrif'.

    7.4. Cynigion recriwtio'r cynlluniau aelodaeth ac anrheg am ddim
    7.4.1. O bryd i'w gilydd, efallai y bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal cynigion arbennig er mwyn hyrwyddo'r cynlluniau aelodaeth. Ni chaniateir ceisiadau mewn swmp na cheisiadau gan drydydd partïon ac ni ellir defnyddio'r cynigion ar y cyd ag unrhyw gynigion neu hyrwyddiadau eraill.

    7.5. GDPR
    7.5.1. Caiff enwau a manylion cyswllt aelodau eu storio ar gronfa ddata fel y gallwn anfon gwybodaeth a chynigion atoch sy'n ymwneud â Chanolfan Mileniwm Cymru a all gynnwys gweithgareddau codi arian ychwanegol.
    7.5.2. Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn storio ac yn prosesu eich data personol yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth diogelu data sy'n gymwys.
    7.5.3. Mae gan aelodau'r hawl i ddewis p'un a ydynt am dderbyn rhagor o wybodaeth am brosiectau, perfformiadau neu weithgareddau a gynhelir gan Ganolfan Mileniwm Cymru ai peidio. Os byddwch yn newid eich meddwl ar unrhyw adeg yn ystod eich aelodaeth, rhowch wybod i ni.
    7.5.4. Yn unol â'n Polisi Preifatrwydd, sydd ar gael ar ein gwefan, ni fydd Canolfan Mileniwm Cymru yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon, ac eithrio CThEF os byddwch yn dewis ychwanegu Rhodd Cymorth at eich aelodaeth. 

    7.6. Rhodd Cymorth
    7.6.1. Mae ein pecyn aelodaeth Partner yn cynnwys cyfran budd a chyfran rhodd.
    7.6.2. Bydd unrhyw rodd a gawn sy'n uwch na gwerth y buddion y cytunwyd arno yn gymwys am Rodd Cymorth. Byddwn yn gofyn a ydych yn gymwys am Rodd Cymorth pan fyddwch yn ymuno felly rhowch wybod i ni ar y cam hwn a hoffech roi Rhodd Cymorth ar eich rhodd, neu ar ôl hynny os bydd eich amgylchiadau'n newid. 

    7.7. Cerdyn aelodaeth ddigidol
    7.7.1. Gall aelodau hawlio eu buddiannau ar y safle drwy ddangos eu cerdyn aelodaeth ddigidol neu cod QR bersonol (gellir ddod o hyd i'r ddau drwy fewngofnodi i Fy Nghyfrif)
    7.7.2. Mae cardiau aelodaeth digidol yn ddilys hyd dyddiad dod i ben yr aelodaeth fel a ddengys yn Fy Nghyfrif.
    7.7.3. Nid yw cardiau aelodaeth na manylion cysylltiedig yn drosglwyddadwy a dim ond yr unigolyn/unigolion a enwir ar y cerdyn sydd â hawl i'w ddefnyddio i archebu tocynnau neu hawlio gostyngiadau.

AMRYWIO'R TELERAU AC AMODAU HYN

Cafodd y Telerau ac Amodau hyn eu diweddaru ddiwethaf ar 16 Ionawr 2024. Ceidw Canolfan Mileniwm Cymru yr hawl i amrywio'r Telerau ac Amodau hyn o bryd i'w gilydd. Daw amrywiadau o'r fath i rym yn syth ar ôl eu cyhoeddi ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru. Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn prynu aelodaeth, adnewyddu aelodaeth neu brynu aelodaeth yn anrheg. Drwy brynu aelodaeth ar-lein,  dros y ffôn neu drwy'r post, dylech ddeall eich bod yn cytuno i fod yn rhwymedig i'r telerau ac amodau hyn a'n Hysbysiad Preifatrwydd. Hefyd, dylid darllen y telerau ac amodau hyn ar y cyd â'r Telerau ac Amodau Gwerthu.

Sylwer: os ydych yn defnyddio aelodaeth a brynwyd i chi yn anrheg gan rywun arall, yna drwy weithredu rydych yn derbyn ac yn cytuno bod y telerau ac amodau hyn yn gymwys rhyngom.

MAE CANOLFAN MILENIWM CYMRU YN ELUSEN GOFRESTREDIG [RHIF ELUSEN 1060458]