Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Lawrence Abu Hamden

Lawrence Abu Hamden

Daeth LAWRENCE ABU HAMDAN â’i ddiddordeb mewn sain â’i rhyngblethiad â gwleidyddiaeth i Ŵyl y Llais 2016.

Cafodd corff o ymchwil diweddaraf Abu Hamdan, a gomisiynwyd gan Ganolfan Mileniwm Cymru ac Artes Mundi, ei berfformio yng Ngŵyl y Llais fel traethawd sain byw, gan ddefnyddio cyfres o driniaethau sonig a samplau wedi’u recordio ymlaen llaw i gwestiynu’r ffyrdd sylfaenol rydyn ni’n siarad, yn gwrando ac yn cael ein clywed heddiw.