Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Biig Piig

Biig Piig

Hyd yn oed tu ôl i ddrysau caeedig, roedd 2020 yn ddeuddeg mis o lwyddo ar gyfer pop cyffesiadol, arddullhylifol BIIG PIIG.

Gellir adnabod ei llais yn syth, yn canu yn Saesneg a Sbaeneg, tra’n cymysgu dylanwadau byd-eang gan gynnwys hip-hop, R&B, cerddoriaeth ddawns a chanu’r enaid.

Ganwyd Jess Smyth aka Biig Piig yn Iwerddon, ond treuliodd ei blynyddoedd ffurfiannol yn Sbaen cyn symud i Shepherd's Bush. Er iddi ddysgu Saesneg gartref, roedd Biig Piig ond yn gallu darllen ac ysgrifennu’n Sbaeneg; roedd yn newid ansefydlog ond fe wnaeth hi ddarganfod ei phobl yn y cymundod cerddorol NiNE8 yn Llundain, a gafodd ei gyd-sefydlu ganddi hi a Lava La Rue.

Er ei bod hi yn ei hugeiniau cynnar, mae gan Biig Piig y doethineb difater sydd fel arfer yn eiddo i'r rheiny sy’n llawer hŷn. Mae ei chaneuon yn cynnig portreadau didwyll, araf o gariad ifanc, hunaniaeth ac ansicrwydd cyffredinol morio’r bywyd odern. Mewn byd sy’n fwyfwy cyflym, mae gwrando ar Biig Piig yn teimlo fel ochneidiad o ryddhad.

“Biig Piig is the indie queen of reinvention.”

NME

MWY GAN BIIG PIIG