Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Charlotte Church's Late Night Pop Dungeon

Charlotte Church's Late Night Pop Dungeon

Lawr y grisiau tywyll, tywyll, ar grocbren gwaedlyd roc meddal, trwy ddaeargell y cawsaidd, i mewn i arteithle disgo, mae croeso i chi yn y CHARLOTTE CHURCH'S LATE NIGHT POP DUNGEON.

Mi fydd meistres y dwnsiwn, Charlotte Church, ynghyd â’i band cefnogol ôl-pync-disgo-R'n’R’n’B tra-metronomaidd, yn rhoi ei thriniaeth MK Ultra i'r tiwniau gorau a anghofiwyd gennym, a rhai a fydd am byth yn arswydo ein cof cynulliadol. Dewch ag esgidiau dawnsio – mae'r llawr ar dân.

Roedden ni wrth ein boddau’n gweithio gyda Charlotte yn y gorffennol – o'i chynhyrchiad theatr The Last Mermaid yn 2016 i'r noson Utopia a churadwyd ganddi yn 2018, rydych chi’n gwybod bod noson wych o’ch blaenau. Pwy sy’n well i gynnal ein parti nos Sadwrn?

"Pop Dungeon is not a dusty covers band who play songs note perfect to their meant-to-be, tidy ends; in their snippets and mixes they’ve more in common with 2manydjs than the Bootleg Beatles."

LOUD AND QUIET

MWY GAN CHARLOTTE CHURCH