Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Perfformiadau am ddim: Dydd Iau

Yn ystod yr ŵyl cewch gyfle i brofi sawl perfformiad cyhoeddus am ddim drwy gydol yr adeilad - gan gynnwys darnau dawns pop-yp, ffilmiau 360 ymdrochol, gosodiadau sain, trafodaethau panel a chynhyrchiadau theatr ieuenctid.

Yng nghyntedd y Glanfa

Drwy'r dydd: Power Wall. Darganfyddwch fwy am y cynhyrchiad Ymyriadau Pwerus hwn, a gomisiynwyd drwy'r bartneriaeth Yn Gryfach Ynghyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Valleys Kids, a rhowch wybod beth yw ystyr 'pŵer' i chi.

Drwy'r dydd: Mae Pencil Breakers yn cynnwys darnau gwreiddiol o ysgrifen gan leisiau cwiar, anabl ac actifydd. Dewch o hyd i bedwar poster yng nghyntedd y Glanfa a sganiwch y cod QR er mwyn darllen neu wrando ar y straeon.

3pm - 9pm: Profiad VR Ripples of Kindness ar bwys y Caffi yng nghyntedd y Glanfa. Caiff y profiad realiti rhithwir cymydol hwn ei ysbrydoli gan straeon Hussein Amiri a'i deulu (The Boy with Two Hearts), a orfodwyd i ffoi o Affganistan yn 2000.

6pm - 6.45pm / 7pm - 7.45pm / 8pm - 8.45pm: Mae Kyle Legall yn cyflwyno Over the Bay Bro ar ein hardal balconi ar yr ail lawr, uwchben Bar One. Darperir clustffonau. Mae'r ddrama sain hon yn stori ffantasi am Dorothy, aelod alltud o gymuned Tiger Bay sy'n dychwelyd i'r Bae dan amgylchiadau trasig. Yn cynnwys cast llawn perfformwyr talentog o Drebiwt, a cherddoriaeth gan Krisy Jenkins. Hoffai Kyle glywed eich adborth.

Yn yr ofod arddangos

Drwy'r dydd: Mae Theatr Ieuenctid Rhydyfelin yn cyflwyno Disruption, ffilm 360 ddigidol ymdrochol a fydd yn eich cymryd ar archwiliad o'r gwahanol deimladau mae pobl ifanc yn profi o ganlyniad i darfiadau.

Drwy'r dydd: Mae Company of Sirens, mewn cydweithrediad â Sight Life Wales, yn cyflwyno With Eyes Closed, ffilm sy'n edrych ar atgofion sy'n perthyn i gerddoriaeth. Gan gynnwys perfformwyr â cholled golwg, mae'r ffilm yn gasgliad o straeon personol sy'n ystyried natur y cof ac adrodd straeon. Cyfarwyddwyd gan Chris Durnall ac Angharad Matthews. Cyfarwyddwr cynorthwyol: Tafsila Khan. Dylunydd goleuadau: Cara Hood. Cerddoriaeth: Stacey Blythe.

Drwy'r dydd: Mae Vessels yn gerdd gair llafar gan y Cydymaith Creadigol Jaffrin Khan sy'n ystyried pwysedd cymdeithasol delwedd corff. Mae'r darn yn edrych ar sut mae'r diwydiant gosmetigau, y wasg a'n perthnasau'n effeithio ar y ffordd rydyn ni'n gweld ein hunain. Wedi'i ysgogi gan brofiadau bywyd, defnyddiodd Jaffrin anecdotau personol fel ysbrydoliaeth.

Drwy'r dydd: The Successors of Mandingue, ffilm gan Tim Short sy'n edrych ar gerddoriaeth a dawns y cydweithrediad egnïol hwn o Orllewin Affrica, gyda dawnswyr o Gymru a Senegal a cherddoriaeth gan N’famady Kouyaté.

Drwy'r dydd: Unlikely Heroes - The Curse of the Doughnut, drama sain 30 munud sy'n ystyried hunaniaeth, cenedl a rhywioldeb mewn modd chwareus. Canllaw oedran: 14+

Yn y Stiwdio Weston

3pm - 11pm: Up and Cymru. Wedi'i curadu gan Starving Artists (y Cydymaith Creadigol Tumi Williams), mae Up and Cymru yn cynnwys trafodaethau i ysgogi'r meddwl dan arweiniad John Morris a Michael Melocan (aka Mr Woodnote), a leinyp cyffrous o berfformwyr Cymreig newydd:

Leinyp

Shanti Squire
John Morris (PRS)
Mr Woodnote on The Paramountcy of Tone & Intension
Nell
Teifi
Niques
Blank Face
Hemes
Asha Jane
E11ICE
Bard Picasso showcase DW Smith & Blue City CDF
Mr Phormula
Mace The Great
King Kashmere