Daw BRETT ANDERSON, CHARLES HAZLEWOOD, PARAORCHESTRA a lleisydd gwadd arbennig GWENNO at ei gilydd ar gyfer perfformiad byw o 'Death Songbook'.
Mae’r detholiad cyfoethog yn cynnwys cerddoriaeth gan eiconau fel Echo and the Bunnymen, Skeeter Davis, Japan, David Bowie/Jacques Brel, a Suede.
Mae’r set arbennig hon – wedi’i chyfoethogi gan amrywiaeth a medrusrwydd cerddorion Paraorchestra mewn trefniannau newydd gan y gyfansoddwraig Charlotte Harding – yn cynnwys fersiynau newydd cain o ganeuon am farwolaeth, marwolaeth cariad, colled, a throsgynoldeb.
Mae'n ein hatgoffa ni mai cerddoriaeth yw ein ffrind pennaf mewn cyfnod llwm; yn ein gwahodd i wyro o amgylch cannwyll a mynd benben gyda thristwch, yn gysur, yn faethlon, ac yn ddyrchafol.