Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Am Ddim: Recordiau Noddfa

Am Ddim: Recordiau Noddfa

30 Hydref 2022

Mae RECORDIAU NODDFA – ‘label recordiau annibynnol o’r gogledd ar gyfer artistiaid o Gymru sydd ddim yn rhoi ff*c’, wedi curadu noson o wallgofrwydd seicedelig ar gyfer Llais eleni.

Crinc

“Grŵp Garej Tanddaearol Diwydiannol Cymru-Weriniaethol Pync Sofietaidd Minimalaidd Neo-Rêf Ôl-Mod Seiber Amgylcheddol Docsig” yw CRINC.

HMS Morris

Grŵp roc-celf o Gymru yw HMS MORRIS. Maen nhw’n cael eu cefnogi gan Bubblewrap Collective yng Nghaerdydd. Mae eu dwy albwm lawn hyd yma wedi cael eu henwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, ac wedi’u disgrifio fel ‘Cerddoriaeth bop arloesol a blaengar’, ‘cerddoriaeth od a hyfryd’, a ‘sain aml-ddimensiwn sy’n troedio meysydd o fyd sain sydd heb eu harchwilio eto’ (Clash)

Pasta Hull

Band o’r gogledd yw PASTA HULL, sy’n creu cymysgedd amhenodol ond chwareus o ffync, hip hop, jazz, roc a rôl, a mwy.

Melin Melyn

MELIN MELYN yw un o’r bandiau mwyaf cyffrous i ymddangos o’r genhedlaeth euraidd nesaf yma o artistiaid o Gymru, gan droedio pont llai cyffredin rhwng seicedelia, syrff, gwerin, a roc amgen. Yn gyfuniad o ddylanwad eu cyd-Gymry, yr arwyr Gruff Rhys a Gorky’s Zygotic Mynci (i enwi dim ond rhai), mae eu cerddoriaeth hefyd yn gwbl unigryw ac i’w gweld drwy eu lens benodol ac amryliw nhw.

3 Hwr Doeth

Mae cerddoriaeth 3 HWR DOETH yn trafod llawer o themâu ar draws gwleidyddiaeth a mwy – mae’r criw o grefftwyr geiriau yn cynnwys Brochwel Ysgithrog, Jac Da Trippa, BOI MA ac Arch Hwch. Yn ymuno â’r grŵp o dro i dro mae’r rapwyr newydd DJ Dilys, Basdish, Dr Slingdick, Griff Lynch a mwy. Drwy dargedu’r heddlu, y cyfryngau cymdeithasol, neiniau, faniau melyn a biji-bos, does neb yn ei chael hi’n hawdd gan y criw yma. Gyda Brochwel ac OG Sleb y tu ôl i’r gwaith cynhyrchu, mae’r curiadau’n curo’n well nag erioed.

LISTEN TO THE ARTISTS (link to Recordiau Noddfa playlist)