Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Sgyrsiau: Systemau Sain - O Garnifal i Rêfs

Sgyrsiau: Systemau Sain - O Garnifal i Rêfs

30 October 2022

Ymunwch â ni am drafodaeth ddiddorol am hanes systemau sain yn Llais eleni.

Mae systemau sain wedi llunio a dylanwadu ar gerddoriaeth ledled y DU ers amser hir, o garnifal i bartïon am ddim – gwelwyd yr effaith ar strydoedd ac mewn warysau. Ymunwch â thri phanelwr – cerddor, artist a hanesydd i ddathlu systemau sain.  

Panelwyr: Darren Emerson (creawdwr In Pursuit of Repetitive Beats), Ashish Joshi, Kervin Julien (Conqueror Soundsystem)  

Cadeirydd: Hassan Mahamdallie

Rhan o’n rhaglen Sgyrsiau rhad ac am ddim yn Llais ar lwyfan y Glanfa.