Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

WEDI GWERTHU ALLAN East City Films yn cyflwyno

In Pursuit of Repetitive Beats

Profiad realiti rhithwir rhyngweithiol

Stiwdio Wolfson

27 Hydref – 6 Tachwedd 2022

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London In Pursuit of Repetitive Beats {{::on_sale_date.label}} Stiwdio Wolfson MM/DD/YYYY 15 event-1507

WEDI GWERTHU ALLAN East City Films yn cyflwyno

In Pursuit of Repetitive Beats

Profiad realiti rhithwir rhyngweithiol

27 Hydref – 6 Tachwedd 2022

Stiwdio Wolfson

Mae IN PURSUIT OF REPETITIVE BEATS yn brofiad realiti rhithwir rhyngweithiol gan y gwneuthurwr ffilm arobryn, Darren Emerson, sy'n gwahodd cynulleidfaoedd i fynd i chwilio am rêf anghyfreithlon, un noson yn Coventry ym 1989.

Taith aml-synhwyraidd i galon y diwygiad dawns yw hon. Dewch â’ch ffrindiau gyda chi a dewch i antur realiti rhithwir a fydd yn eich cludo i galon y symudiad Acid House.

O lofftydd â phosteri ar eu waliau i orsafoedd radio pirate, pencadlys heddlu i warysau cudd, byddwch yn camu i esgidiau arloeswyr y diwylliant rêf wrth i chi fynd i chwilio am y parti.

Dewch i dystio i’r ffenomenon cymdeithasol hwn o lygad y ffynnon mewn byd rhithiol y gellir ei archwilio, sydd wedi’i osod ar ddiwedd degawd gythryblus yn y DU. Bydd yn cyfuno traciau Acid House gydag efelychiad rhyngweithiol ac aml-synhwyraidd.

Mae In Pursuit of Repetitive Beats yn dod â hanesion yr hyrwyddwyr, y swyddogion heddlu a’r bobl oedd yn y rêf yn fyw, ac fe wnaeth eu perthnasau a’u gwrthdaro yrru diwygiad o fewn cerddoriaeth a chymdeithas.

Archebwch eich tocyn yn ôl i 1989 i rannu profiad a wnaeth siapio cenhedlaeth; i deimlo’r synnwyr o ddisgwyl, yr anesmwythder, y cyffro a’r ewfforia a oedd yn rhan o Acid House.

Amseroedd agor:
Llun – Sul 1pm – 4pm, 6pm – 9pm 
Bydd y profiad yn rhedeg unwaith yr awr. Ni chaniateir hwyrddyfodiaid.

Amser rhedeg: Mae'r profiad VR yn rhedeg am tua 30 munud. Dylech gyrraedd o leiaf 10 munud cyn dechrau eich sesiwn a chaniatáu hyd at awr o'r dechrau i'r diwedd.

Canllaw oedran: 15+
Rhaid bod unrhywun dan 16 fod yng nghwmni oedolyn.

Rhybuddion: Cyfeiriadau at weithgarwch anghyfreithlon a chymryd cyffuriau

BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?

Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.

BETH DDYLEN I DDISGWYL?

Mae'r holl brofiad yn digwydd mewn man gosod lle mae ymwelwyr yn gwisgo penwisg VR; yn ystod y profiad byddwch yn symud o gwmpas yn y gofod yn gwisgo'r benwisg, gan ymgysylltu â phrofiadau rhithwir a chorfforol/synhwyraidd. Mae hwn wedi'i gynllunio i deimlo'n ddiogel, ac i fod mor reddfol, pleserus a hygyrch â phosibl i bawb.

OES ANGEN ARCHEBU LLE?

Oes. Mae lle i 6 o bobl ym mhob sesiwn, a gallwch archebu lle yn unigol neu fel grŵp.

Mae pob sesiwn yn cynnwys 4 profiad cerdded a 2 brofiad eistedd.

Mae’r profiad eistedd sydd â phris gostyngol yn opsiwn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn neu’r rhai y byddai’n well ganddyn nhw eistedd am y 30 munud llawn. Fel arall, nid yw’r profiad yn wahanol.

OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYWBETH?

Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.

BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, salwch teithio neu lewygu.

Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 13 oed.

Ni chanteir babis mewn gwregys yn y profiad.

Ni chanteir i unrhyw westeion sy’n cyrraedd ar gyfer y profiad gymryd rhan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Yn dilyn y profiad VR ceir arddangosfa fach sy'n cynnwys archif a deunyddiau clyweledol eraill sy'n archwilio sîn Acid House Prydain i'w mwynhau yn eich amser eich hun.

Capsiynau Caeedig

Stiwdio Wolfston

Cyflwynir yn

Stiwdio Wolfson