Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A Celebration of Alison Statton: A Jazz Re-imagining

A Celebration of Alison Statton: A Jazz Re-imagining

12 Hydref 2023

Ymunwch â ni am ddathliad syfrdanol o’r seren ôl-pync eiconig o Gaerdydd Alison Statton gyda cherddorion jazz o Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae cerddoriaeth fywiog Statton yn dod yn fyw gyda threfniadau jazz dynamig newydd, gan uno byrfyfyr penigamp â grŵfs melodaidd diamser. Caiff repertoire mwyaf eiconig Statton, sy’n adnabyddus am ei chyfraniadau at y bandiau Young Marble Giants a Weekend, ei archwilio drwy lens ffres ac arbrofol, gan ddefnyddio elfennau o ddylanwadau amrywiol o bob rhan o’r sbectrwm cerddorol.  

Sylvie Noble – Llais

Coren Sithers – Sacsoffon a synth

Dan Edgecombe – Gitâr

Nils Kavanagh – Allweddellau

Ursula Harrison – Bas

Tom Williams – Drymiau

Llun: Jos van Vliet, 1983.

Amser dechrau: 9pm

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.