Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Enys Men gyda Sgôr Byw gan The Cornish Sound Unit

Enys Men gyda Sgôr Byw gan The Cornish Sound Unit

14 Hydref 2023

Mae cyfarwyddwr “BAIT” Mark Jenkin yn dilyn ei ffilm gyntaf lwyddiannus gydag Enys Men, stori arswyd werin ryfeddol ac iasoer, wedi’i ffilmio ar 16mm.

Caiff ei berfformio gan Jenkin ei hun a Dion Starr, o dan faner eu prosiect cerddoriaeth cydweithredol The Cornish Sound Unit, sy’n creu darnau byrfyfyr ac wedi’u cyfansoddi gan ddefnyddio peiriannau tâp, synths analog, adborth a recordiadau maes.

Sgôr byw wedi'i chomisiynu gan BFI.

Amser dechrau: 1pm

Hyd y perfformiad: Tua 90 munud

Oed: 15+

Rhybuddion: Rhyw cryf byr, hunan-niweidio, golygfeydd annifyr, bygythiad seicolegol

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.