-
Gwen 13 Hydref
Mae Hard Côr, sy’n brosiect ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn dod â cherddorion rhwng 18 a 25 oed at ei gilydd i ffurfio grŵp lleisiol unigryw.
Mae cyfranogwyr yn dod ynghyd i archwilio amrywiaeth o arddulliau a thechnegau cerddorol, gan uno canu corawl â genres fel grime, hip hop a RnB a datblygu ystod o sgiliau gan gynnwys lleisio, ‘MCing’, rapio a bîtbocsio.
Mae’r prosiect yn cynnig hyfforddiant a chyfle i greu cerddoriaeth gydag ymarferwyr a cherddorion gorau’r wlad, gan arwain at ddigwyddiad arddangos talent i ddathlu byd cerddoriaeth Cymru sy’n gynyddol gyffrous ac arloesol.
Amser dechrau: 7.30pm yn y llwyfan Glanfa.
Galwch heibio - does dim rhaid archebu lle.