Siân James yw un o gantorion benywaidd cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru, ac mae’n arloeswr arweiniol ym maes caneuon gwerin traddodiadol.
Mae’n chwarae telyn geltaidd ac mae’n bianydd ac yn gyfansoddwr ardderchog. Oherwydd ei gallu amryddawn fel perfformiwr, mae wedi ymddangos ar lwyfannau, ar sgrin ac mewn lleoliadau cyngherddau ledled y byd, a chaiff ei pharchu fel un o brif lysgenhadon cerddoriaeth Cymru.
Hyd yma, mae wedi rhyddhau deg albwm o’i gwaith – casgliadau eclectig o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol sy’n cwmpasu’r ystod llawn o emosiynau dynol, o gariad a chwerthin i golled a chyrch ysbrydol. Mae ei halbwm diweddaraf Gosteg yn gasgliad o emynau a cherddi ysbrydol, wedi’u cyfuno â chyfansoddiadau traddodiadol a gwreiddiol. Mae Siân yn adnabyddus am ei gallu greddfol i gyfleu emosiynau dwfn yn ei chaneuon â diffuantrwydd ac angerdd digyffelyb.
Mae ei theithiau diweddaraf wedi mynd â hi i Tsieina, Patagonia, Canada ac Uzbekistan. Mae hi’n Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Bangor am ei chyfraniad at ddiwylliant Cymru, a chafodd ei hurddo yn aelod o’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod.
Amser dechrau: 8.30pm
TALWCH BETH Y GALLWCH
Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.