Mae ein gwneuthurwyr Theatr Ieuenctid wedi bod yn brysur dros yr ychydig wythnosau diwethaf yn creu, ysgrifennu a datblygu A Sketched World.
Mae artist ifanc yn deffro mewn byd rhyfedd, hudol a dieithr. I gael yr atebion sydd eu hangen arni, bydd hi’n ymuno â grŵp sy’n cynnwys tywysog o stori tylwyth teg, gwyddonydd gwallgof, ditectif oeraidd a llawer mwy ar eu chwilfa i orchfygu gelyn mwyaf y byd. Wedi’i ysbrydoli gan ddihangdod a rhyddid straeon a dychymyg, mae A Sketched World yn annog ei gymeriadau, a’i gynulleidfa, i ddod o hyd i'r dewrder i freuddwydio.
Mae ein Theatr Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 14–17 oed sydd â diddordeb mewn creu theatr sy’n berthnasol i'r byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw. Rhywbeth sy’n siarad â nhw. Maen nhw wedi cael eu harwain gan ymarferwyr proffesiynol a gweithwyr ieuenctid i ddatblygu sgiliau theatr a pherfformio mewn amgylchedd cyfeillgar a chynhwysol.
Ar hyd y ffordd, maen nhw wedi gallu datblygu dealltwriaeth o’r holl elfennau sy’n rhan o greu theatr wych, o ymchwilio a datblygu syniadau i ddylunio set a dysgu sut i gyflwyno perfformiad arbennig.
Amser dechrau: 6pm
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond mae angen tocyn. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich tocyn ymlaen llaw i osgoi unrhyw siom.