Ymunwch â’r awdur Nadifa Mohamed i drafod ei novel The Fortune Men, cael cyfle i ofyn cwestiynau a bod yn rhan o ddathliad o hanes, diwylliant a pherfformiadau gan bobl Gymreig o Somaliland wedi’i guradu a’i raglennu gan Zainab Nur.
Gan ddechrau yn y Stiwdio Weston, rydyn ni’n eich gwahodd i ddod a chymryd rhan mewn trafodaeth, lle y byddwn ni’n dathlu traddodiadau adloniant treftadaeth Somalïaidd, cysylltu â hanes a dysgu am ddiwylliant Somalïaidd.
Yna mae croeso i chi ymuno â ni am ddawns ddiwylliannol a sioe ffasiwn wedi’u harwain gan bobl ifanc yn ardal y Glanfa a fydd yn dechrau am 1.45pm
Amser dechrau: 12pm
TALLWCH BETH Y GALLWCH
Pris tocynnau yw talu'r hyn a allwch ar gyfer y digwyddiad hwn. Byddwch chi’n gallu dewis pa opsiwn prisiau sy’n addas i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.