Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Un Deg Pump

Un Deg Pump

Fel rhan o Ŵyl 2021 ar y BBC, rydyn ni wedi cynhyrchu cyfres o bodlediadau ysbrydoledig gyda siaradwyr o’n cymuned leol a thu hwnt, sydd wedi’u cynnal a’u cynhyrchu gan dîm Radio Platfform.

Mae’r podlediadau’n archwilio pynciau a straeon sy’n cysylltu pobl, ac yn cynnwys hanesion personol a monologau barddol, sydd wedi’u curadu a’u cymysgu gydag amrywiaeth o gerddoriaeth, archif ac effeithiau sain i greu tapestri o eiriau a sain.

Y DEUAIDD A MWY

Yn ymuno â Ren Heulyn Tryner mae’r gwestai Kay R Dennis i drafod eu profiadau o archwilio’u rhywedd. Mae’r sgwrs bryfoclyd yma’n gofyn cwestiynau i’ch helpu i ddod i nabod eich hunan yn well ac yn cynnig syniadau diddorol am hunaniaeth rhywedd. 

AI CAERDYDD FYDD YR ATLANTIS NESAF?

A ninnau’n wynebu heriau cynhesu byd-eang, pwy a ŵyr? Mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymuno ag Agathe Dijoud i drafod deddfwriaeth unigryw ac arloesol Cymru a sut gall pobl ifanc godi llais a dal llywodraethau a sefydliadau i gyfrif.

HUNANIAETH GYMREIG

Yn y Gymru fodern, beth yw ystyr bod yn Gymro neu Gymraes? Wrth i’r Gymraeg wynebu heriau parhaus, mae’r actor Ieuan Rhys yn ymuno â Teifi James a Cerys Davage i drafod yr iaith, eu profiadau o’r byd fel Cymry a sut mae hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo. 

MENYWOD YN Y DIWYDIANT CREADIGOL

Mae’r hyfryd Catryn Ramasut o gwmni IeIe Productions a’r sinematograffydd talentog Emily Almond Barr yn ymuno â Dominika Rau i drafod sut brofiad yw bod yn fenyw yn y byd creadigol. Maen nhw’n sôn am oresgyn trafferthion gyda chydweithwyr gwrywaidd a sut maen nhw’n agor y drws i fenywod eraill ddilyn ar eu hôl.

CREADIGRWYDD ADEG Y CYFNOD CLO

Mae’r artist a’r cyflwynydd radio Ez Rah yn sgwrsio â Magugu, rapiwr o Gaerdydd sydd wedi parhau i ryddhau cerddoriaeth ac ennill enwogrwydd byd-eang gyda’i arddull rapio pidgin unigryw.

Hefyd yn ymuno ag Ez Rah mae Tumi Williams, neu Skunkadelic, prif leisydd y band Afro Cluster a ddechreuodd ei fusnes bwyd ei hunan, Jolloff House Party, yn ystod y cyfnod clo.

Bydd y tri artist yn trafod eu teithiau a’u prosesau cerddorol yn ystod y cyfnod clo yn ogystal â bywyd y tu hwnt i gerddoriaeth, gan drafod pethau da a drwg 2020.