Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A headshot image of Llinos Mai, smiling directly at the camera

Calon, hiwmor a chaneuon bachog – Llinos Mai ar Anthem

Dyma'r awdur a chyd-gyfansoddwr Llinos Mai yn rhannu ei hysbrydoliaeth ar gyfer y Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru cyntaf yn 2022 – Anthem.

Rwy'n ysgrifennu sioeau comedi sy'n cynnwys caneuon comedi ac felly rwyf bob amser yn chwilio am amgylcheddau posibl i osod sioeau newydd.

Mae sioeau talent teledu fel The X Factor, Britain's Got Talent a The Voice, a chystadlaethau caneuon teledu fel Eurovision a Chân i Gymru bob amser wedi teimlo fel y bydoedd perffaith i'w defnyddio fel ysbrydoliaeth ar gyfer sioe gomedi.

Mae sioeau talent teledu yn cynnwys pobl gyffredin yn cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd eithriadol (canu neu berfformio'n fyw ar y teledu o flaen miliynau o bobl) sy'n gallu bod yn wych, yn ddoniol, yn cadarnhau bywyd ac yn cyffroi pawb ar yr un pryd.

Mae cystadlaethau caneuon teledu yn cynnig nosweithiau difyr o wahanol arddulliau caneuon, wedi'u llwyfannu mewn ffyrdd gwych ac weithiau boncyrs. Ac felly'r ddwy elfen hyn oedd y prif ysbrydoliaeth ar gyfer ysgrifennu sioe newydd – Anthem.

Ennillydd Cân i Gymru 2021 – 'Bach o Hwne' gan Morgan Elwy Williams

Mae Anthem yn dilyn fformat y sioeau hyn yn fawr iawn. Fe'i sefydlwyd fel darllediad teledu byw sy'n cael ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar noson y rownd derfynol fyw.

Mae yna gyflwynydd, pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol sydd wedi ysgrifennu cân Gymraeg newydd, VTs lle rydyn ni'n dysgu ychydig mwy am eu bywydau ac mae'r cystadleuwyr yn perfformio eu caneuon yn fyw. Beth allai fynd o'i le?! Wel, gan fod y sioe lwyfan hon yn gomedi, yna cryn dipyn mewn gwirionedd.

Ddim i swnio'n ormodol fel hysbyseb Croeso Cymru ond nag yw Cymru'n le anhygoel? Mae mor gyfoethog o ran hanes, diwylliant, iaith, traddodiadau a thirweddau hardd.

Mae gennym Eisteddfodau, yr Orsedd, y Mabinogion, Yr Wyddfa, a heb anghofio 'Fferm Ffactor.' Mae'n teimlo fel y fath ddanteithion i allu mynd at rai o'r elfennau hyn o fewn y sioe drwy gomedi a chân.

Gig y Pafiliwn, Eisteddfod 2018

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Anthem wedi mynd o froliant un tudalen i sgript lawn, drwy rai wythnosau o ymchwil a datblygu a misoedd lawer yn eistedd wrth fwrdd fy nghegin yn ysgrifennu'r sgript a'r caneuon.

Dim ond pythefnos sydd nes i ni ddechrau’r ymarferion yng Nghanolfan Mileniwm Cymru erbyn hyn ac mae tîm creadigol anhygoel dan arweiniad Alice Eklund fel Cyfarwyddwr, Dan Lawrence fel Cyfarwyddwr Cerddorol a Roger Williams fel Dramaturg.

Mae gennym hefyd gast o actorion comedi talentog yn eu lle ac rwy'n gwybod eu bod i gyd yn mynd i ddod â'r darn yn fyw mewn ffordd mor hudolus.

Y llynedd, gwyliais Cân i Gymru ac roeddwn i'n teimlo ymdeimlad enfawr o gariad a balchder i'r sioe. Dyma grŵp o unigolion cyffredin gyda swyddi bob dydd a oedd hefyd yn digwydd bod â'r gallu a'r ddawn i ysgrifennu caneuon ac a oedd hefyd yn ddigon dewr i'w canu ar deledu byw.

Wn i ddim a allai cystadleuaeth o'r math arbennig hwn fodoli yn unman arall yn y byd heblaw Cymru. Gobeithio y bydd Anthem yn mynd rhywfaint i ddathlu hyn.

Rwyf bob amser wedi creu sioeau yr hoffwn fynd i'w gweld yn y theatr. Felly, os ydych chi fel fi'n hoffi sioeau gyda chalon, hiwmor a chaneuon bachog, yna efallai Anthem yw'r sioe i chi!

Anthem

Stiwdio Weston, 20 – 30 Gorffennaf

Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i Peter a Janet Swinburn a Dr Carol Bell am gefnogi Anthem, a hefyd i'r Garfield Weston Foundation a Chyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi ein cynyrchiadau yn ystod 2021/22.

Darganfyddwch fwy am gefnogi ein cynyrchiadau a'n gwaith creadigol ar draws Cymru drwy ddod yn aelod o'n Cylch y Cadeirydd.