Gan fod ein tymor Perfformiadau i’r Chwilfrydig bellach ar ei anterth dyma grynodeb cyflym o rai o’r sioeau cabaret aruthrol sydd ar eu ffordd yn fuan yn ystod tymor y Nadolig.
Mynnwch eich tocynnau a dewch â’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr draw i lolfa cabaret ffresh i ddathlu’r Nadolig mewn steil. Mwynhewch goctels dau am bris un a phrofi ein ’bwydlen cabaret newydd neu archebu swper i fynd gyda chi i’ch sioe.
House of Broadway
10 Tachwedd
![House of Broadway](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2018/Performances%20for%20the%20Curious%202018/House%20of%20Broadway/header-House-of-Broadway.jpg)
Os ydych chi’n dwlu ar Broadway, yn sicr dyma un sioe ‘un noson yn unig’ na fydd yn siomi, gyda chast o berfformwyr disglair, ac yn eu plith enillwyr gwobrau y Classical Brit a chantorion profiadol y West End. Mae’n orlawn o’ch hoff ganeuon o’r sioeau cerdd.
Hello Cabaret
23 Tachwedd
![Hello Cabaret](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2018/Performances%20for%20the%20Curious%202018/Hello%20Cabaret/header-Hello-Cabaret.jpg)
Mae Hello Cabaret yn ôl gyda noson arall gyffrous o sêr, perfformwyr eithriadol a straeon cerddorol o bob rhan o fyd y theatr.
Cynheswch eich lleisiau gan y bydd hi’n amhosibl ichi beidio ag ymuno â chanu’r criw.
Ffresh Burlesque
1 Rhagfyr
![Ffresh Burlesque](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2018/Performances%20for%20the%20Curious%202018/Cardiff%20Burlesque/Cardiff-Burlesque.jpg)
Daliwch yn dynn ar gyfer noson fythgofiadwy o fwrlésg a chomedi yng nghwmni Havana Hurricane a Brenhines y Cabaret, MC Paulus, yn ogystal â pherfformiadau gan FooFooLabelle, Bonita Boudoir a’r seren hwla hwpio ryfeddol, Frenchie Petit.
Cabarela Nadolig
13 Rhagfyr
![Cabarela Nadolig](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2018/Performances%20for%20the%20Curious%202018/Cabarela%20Nadolig/Header_Cabarela-Nadolig.jpg)
Mae Cabarela yn ôl ac yn addo noson o gomedi fudr Nadoligaidd diolch i barodïau mochynnaidd Divas a Diceds, dychan deifiol Hywel Pitts a digywilydd-dra’r chwiorydd Sorela. Dyma’r anrheg gorau un i lenwi’r hosan Nadolig.
Mary Bijou
14 Rhagfyr
![Mary Bijou](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2018/Performances%20for%20the%20Curious%202018/Mary%20Bijou/Header_mary-bijou.jpg)
Dyma strafagansa Nadoligaidd flynyddol Mary Bijou yn ei hôl gyda pharti Nadolig pryfoclyd tu hwnt a chwbl anghonfensiynol.
Gwisgwch eich dillad Nadoligaidd gwaethaf a byddwch yn barod i weld comedi Siôn Cornaidd amheus a gorchestion corfforol aruthrol gan gynnwys hwla hwpio, campau cydbwyso a’r SAS (Secret Agent Santa) acrobatig.
Connie Orff
15 Rhagfyr
![Connie Orff](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2018/Performances%20for%20the%20Curious%202018/Connie%20Orff/header-Connie-Orff.jpg)
Mae Connie yn dychwelyd gyda’i syniad unigryw o ‘dd-arteithion’ y Nadolig. Galwch draw i’w groto o lawenydd i glywed ei myfyrdodau ar y gofynion anochel sydd arnom bob Nadolig, y mwynhad teuluol gorfodol a’r pwysau sydd arnom i wario.