Mae gwledd o gabaret ar y gweill y mis Awst yma yn ein Clwb Swper, gyda nosweithiau comedi stand-yp, drag a theatr gerdd anhygoel. Dewch â'ch ffrindiau lawr i'r Bae am noson wych.
Drag, Nos Sadwrn 17 Awst
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2019/Supper%20Club/Drag/Michael_Twaits.jpg)
Gyda dim ond wythnos i fynd tan Pride Cymru, dewch i ddechrau dathlu'n gynnar gyda'n hoff artist drag ddwyieithog, Connie Orff. Bydd Connie'n croesawu cyflwynwr Pride Llundain, Michael Twaits i'r llwyfan.
Byddwn ni hefyd yn cyflwyno Venetia Blind a Laura Nadia Hunt felly bachwch fwrdd ar gyfer y noson ddanteithiol yma.
Comedi, Nos Sadwrn 24 Awst
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2019/Supper%20Club/Comedy/lunchtime_0122_photo_by_steve_ullathorne.jpg)
Comedi sydd ar y gweill y nos Sadwrn yma. Bydd Leroy Brito yn arwain noson o chwerthin na ddylai neb ei cholli, yn cynnwys Clint Edwards, Esyllt Sears, Steffan Evans a Matt Rees.
Sioeau Cerdd, Nos Sadwrn 31 Awst
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Whats%20On/2019/Supper%20Club/Musicals/TOM_HIER.jpg)
Gyda detholiad o ganeuon clasurol a chyfoes, ymunwch â David Mahoney, Vikki Bebb, Tom Hier a Steffan Rhys Hughes am noson fythgofiadwy o berfformiadau o fyd theatr gerdd.