Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cyfarfod cast Branwen: Dadeni

Dyma gast ein sioe gerdd Cymraeg epig newydd, a gyd-gynhyrchir gyda’n partneriaid Frân Wen. 

Branwen: Dadeni yw’r diweddaraf mewn cyfres o gynyrchiadau Canolfan Mileniwm Cymru sy’n meithrin awduron a doniau creadigol yng Nghymru ac o Gymru.  

Mared Williams - Branwen

Mae Mared yn actor a cherddor o Lannefydd yng Ngogledd Cymru. Ar ôl astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Leeds, aeth ymlaen i ddilyn ei hangerdd am theatr gydag MA yn yr Academi Gerdd Frenhinol, gan arwain ati hi’n dirprwyo rôl Eponine yng nghynhyrchiad newydd y West End o ‘Les Misérables’ yn 2019–2022. 

Yn 2021 dyfarnwyd albwm gwerin/pop dwyieithog cyntaf Mared, 'Y Drefn', yn Albwm Cymraeg y Flwyddyn. Ers hynny, mae hi wedi perfformio ei cherddoriaeth wreiddiol gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn Neuadd Sony yn Efrog Newydd ac mewn sioeau a werthodd allan gyda'i band ledled Llundain a Chymru. 

Yr haf hwn, chwaraeodd Mared ran Clara yn premiere Ewropeaidd 'No For An Answer' gan Mark Blitzstein yn Theatr Arcola yng Nghyffordd Dalston ac ar hyn o bryd mae wrthi'n datblygu ac ysgrifennu ei sioe ei hun. A hithau wedi bod yn rhan o daith 'Branwen' o gyfnodau datblygu cynnar yn 2021, mae hi wrth ei bodd yn mynd â'r stori bwerus i Ganolfan Mileniwm Cymru a ledled Cymru. 

Efnisien - Caitlin Drake 

Mae Caitlin yn actor a chanwr dwyieithog o Rosllannerchrugog yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a graddiodd hi o Italia Conti yn 2019. Gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn y premiere byd o ‘Pavilion’ a gyfarwyddwyd gan Tamara Harvey yn Theatr Clwyd.  

Yna, ymddangosodd Caitlin yn ‘The Brief & Frightening Reign of Phil’ gyda’r National Theatre, Bret McKenzie a Gŵyl Gelfyddydau Seland Newydd. Ar ôl hynny, perfformiodd hi yn y sioe gerdd ‘Coming To England’ yn Birmingham Rep. Gwnaeth Caitlin ei ymddangosiad cyntaf yn yr RSC yn ddiweddar, gan chwarae sawl rhan yn ‘Miss Littlewood’, sioe gerdd a ysgrifennwyd gan Sam Kenyon; a Helena yn ‘Boundless as the Sea’, y ddau wedi’u cyfarwyddo gan Owen Horsley. Mae hi newydd orffen ar ‘Truth or Dare’ a gyfarwyddwyd gan Francesca Goodridge a Daniel Lloyd ac yn ddiweddarach, aeth hi ymlaen i berfformio mewn ‘gweithdy theatr’ yn Theatr Soho yn Llundain. 

Yn ddiweddar bu Caitlin yn gweithio ar ‘Rwan/Nawr’, cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Clwyd a Theatr Genedlaethol Cymru a gafodd ei berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni.  

Mae Caitlin hefyd wedi recordio gwaith gyda BBC Cymru ac S4C ac ymddangosodd yn y ffilm fer ‘Homework’. Mae hi’n llawn cyffro i chwarae Efnisien yn y sioe gerdd Gymraeg epig yma. 

Rithvik Andugula - Matholwch

Cafodd Rithvik ei eni yn Andhra Pradesh yn India. Cafodd ei fagu yn Llundain ac yna Caerdydd, ar ôl i'w deulu symud i'r DU pan oedd yn 5 oed.   

Dechreuodd actio pan oedd yn 11 oed – gyda’i berfformiad cyntaf yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth – a thyfodd ei frwdfrydedd am sioeau cerdd gyda chynyrchiadau blynyddol yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Cafodd Rithvik hyfforddiant yn LAMDA, ac enillodd BA (Anrh.) mewn Actio Proffesiynol (2019–22) yn dilyn ei hyfforddiant gyda Stiwdio Actorion Ifanc Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (2018–19).  

Mae wedi perfformio nifer o brif rolau mewn cynyrchiadau LAMDA, gan gynnwys: Jesus yn ‘Jesus Christ Superstar’, Duncan yn y gomedi wleidyddol ‘New Labour’, Tom yn ‘The Arrival’ gan Bijan Sheibani a Bérenger yn ‘Rhinoceros’. 

Mae ei rolau mewn theatr gerdd yn cynnwys: Marius yn ‘Les Misérables’ (Natasha Evans a Louise Ryan, LRVS), Joe yn ‘Our House’ (Natasha Evans a Beth Hobbs, HACC) a Benny Southstreet yn ‘Guys and Dolls’ (Natasha Evans a Louise Ryan, LRVS).  

Matholwch yw rôl broffesiynol gyntaf Rithvik, ac mae wedi cael blas ar y cyfle i wella ei Gymraeg, gan nad yw wedi ei defnyddio ers gadael yr ysgol.  

Tomos Eames - Bendigeidfran

Mae Tomos Eames yn ganwr ac actor Cymreig. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl.  

Mynychodd y cwrs actio tair blynedd yn yr Ysgol Ganolog Lleferydd a Drama. Derbyniodd hyfforddiant hefyd trwy brosiect cyfnewid haf yn MXAT Moscow. Mae ei gredydau theatr yn cynnwys: ‘Trwy'r Ddinas Hon’ (Theatr y Sherman), ‘Rape of The Fair Country’ (Theatr Clwyd), ‘Spirit of the Mimosa’ (Theatr Clwyd), ‘Deffro'r Gwanwyn’ (Theatr Genedlaethol Cymru), ‘Land Of Our Fathers’ (Tara Finney Productions), Strife (Theatr Chichester). Mae ei gredydau ffilm a theledu yn cynnwys: ‘Resistance’ (Big Rich Films), ‘Gwaith Cartref’ (S4C), ‘Say Nothing’ (Ffilm fer), ‘The Best Possible Taste’ (BBC), ‘Siblings’ (BBC3), ‘Spotless’ (Netflix), ‘Jellyfish’ (Bankside Films), ‘Shakespeare and Hathaway’ (BBC), ‘Lost Boys and Fairies’ (Duck Soup Productions) a ‘Bad Soil’ (Ffilm fer).  

Gillian Elisa - Ena

Mae Gillian wedi mwynhau gyrfa helaeth ar deledu a theatr, yn Gymraeg a Saesneg. Mae hi’n adnabyddus am chwarae Sabrina yn opera sebon enwocaf teledu Cymru ‘Pobol y Cwm’. Mae ei rolau eraill yn cynnwys Grace Evans yn ‘Holby City’; Nana Pat yn rhaglen boblogaidd Sky1 gan Ruth Jones, ‘Stella’; a gwerthwraig lingerie i Nessa yn ‘Gavin and Stacey’. Yn fwy diweddar ymddangosodd yn y gyfres ‘Bang’ a enillodd wobr BAFTA, ac fe chwaraeodd ran gofiadwy y fam yn y gyfres iasol, ‘Craith’. 

Mae Gillian wedi perfformio mewn nifer o sioeau cerdd ers i'w gyrfa ddechrau yn 1974, gan gynnwys chwarae Branwen, y brif rôl yn ‘Melltith ar y Nyth’ yn 1975, sef yr opera roc cyntaf a ddarlledwyd ar y teledu yn Gymraeg ar BBC Cymru/Wales. Treuliodd Gillian bum mlynedd yn chwarae’r fam-gu yn ‘Billy Elliot’ yng nghynhyrchiad Theatr Victoria Palace yn Llundain; hi oedd Widow Corney yn ‘Oliver’ Theatr y Werin yn Aberystwyth yn 2019; ac arweiniodd gast o fenywod yn unig yn y sioe gerdd ‘Tic Toc’ a agorodd yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd cyn mynd ar daith ledled Cymru yn gynnar yn 2023. 

Mewn rolau theatrig eraill, bu Gillian yn teithio gyda chwmni Karen Diamond, Re-live, yn y ddrama gymeradwy ‘Belonging;’ yn 2021 chwaraeodd sawl rôl yn ‘Under Milk Wood yn y National Theatre yn Llundain, ynghyd â Michael Sheen a Siân Phillips; ac yn ddiweddar chwaraeodd ran Vera yn ‘Brassed Offa fu’n llwyddiant mawr yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth. 

Mae Gillian wedi recordio pedwar CD o ganeuon o sioeau cerdd a repertoire poblogaidd eraill.  

Ioan Hefin - Picell 

Mae Ioan yn actor o Gymru ac yn siaradwr Cymraeg rhugl o Sir Gaerfyrddin. Mae ei glodrestr ar y sgrin yn cynnwys y ffilmiau ‘Apostle’ ar gyfer Netflix, ‘Miss Peregrine’s Home for Peculiar Children’ a gyfarwyddwyd gan Tim Burton a ‘The Toll’ ar gyfer Western Edge Pictures. 

Mae clodrestr teledu ddiweddar Ioan yn cynnwys y ddrama drosedd gyffrous ‘Steeltown Murders’, ‘Hidden’, ‘Ordinary Lies’ (Cyfres 2) ac Y Gwyll ar gyfer y BBC, ‘The Light in the Hall’ a drama Jack Thorne ‘The Accident’ ar gyfer Channel 4. Mae ei brif rolau ar deledu Cymraeg yn cynnwys ‘Y Golau’, ‘35 Awr’, ‘Gwaith Cartref’ a ‘Parch’ (Cyfres 2) ar gyfer S4C. 

Mae ei glodrestr theatr yn cynnwys y darn safle-benodol epig ‘Tide Whisperer’ a ‘Joseph K and the Cost of Living’ ar gyfer National Theatre Wales, a’i sioe un dyn ‘You Should Ask Wallace’ sydd wedi teithio’n rhyngwladol. 

Mae’n artist llais profiadol ac mae wedi lleisio nifer o ymgyrchoedd corfforaethol, canllawiau sain ac adnoddau addysgol.  

WYTHAWD

Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i Peter a Janet Swinburn, Dyfrig a Heather John a Carol Bell am gefnogi Branwen: Dadeni.

Dysgwch fwy am gefnogi ein cynyrchiadau a'n gwaith creadigol ar draws Cymru drwy ddod yn aelod o Gylch y Cadeirydd.