Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cyflwyno Tafsila Khan

Roedd yn bleser gennym gyflwyno ein carfan gyntaf o Gymdeithion Creadigol, fis diwethaf. Mae'r grŵp deinamig yma o wyth o artistiaid ac ymarferwyr creadigol yn ymuno â'n tîm ar adeg hollbwysig yn ein hanes.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn dod i adnabod y cymdeithion yn well, drwy sesiwn holi ac ateb gyda phob un. Yr wythnos hon, dewch i gyfarfod Tafsila...

DWÊD WRTHON NI AM DY YMARFER GREADIGOL. PA FATH O WAITH WYT TI'N EI GREU A BETH SY'N DY YSGOGI DI?

Rydw i'n egin gyfarwyddwr theatr sy'n teimlo'n angerddol dros rannu straeon go iawn a rhoi llais i'r rheiny sydd ddim fel arfer yn derbyn gwrandawiad. Mae'r gwaith rwy'n hoffi ei greu yn wleidyddol, yn berthnasol ac yn hybu cyfiawnder cymdeithasol. Caf fy ysgogi gan bŵer y celfyddydau i newid cymdeithas.

Mae hygyrchedd wrth wraidd fy ngwaith, ac rwy'n ceisio sicrhau ymgysylltiad ehangach gyda'r celfyddydau.

PAM OEDDET TI AM YMUNO Â NI FEL CYDYMAITH CREADIGOL?

Roeddwn i am ymuno fel Cydymaith Creadigol, oherwydd mae'r rôl yn cwmpasu fy ymarfer creadigol fel egin gyfarwyddwr theatr ac ymgynghorydd hygyrchedd. Mae'r rôl yn rhoi cyfle i mi ddilyn fy ngyrfa cyfarwyddo theatr, gan weithio gyda phroffesiynolwyr y diwydiant a chael profiad o weithio gydag ystod eang o gynulleidfaoedd.

Fel ymgynghorydd hygyrchedd dw i'n gweithio gyda chanolfannau a chwmnïau cynhyrchu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd anabl cyfredol ac arfaethedig. Drwy weithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel Cydymaith Creadigol gallaf sicrhau bod hygyrchedd yn cael ei integreiddio ym mhob rhan o'r sefydliad.

BETH WYT TI'N GOBEITHIO'I GAEL O'R DDWY FLYNEDD NESAF YN GWEITHIO GYDA NI YNG NGHANOLFAN MILENIWM CYMRU? 

Dw i'n gobeithio'n fawr y byddaf yn datblygu fy ymarfer creadigol drwy gael fwy o gyfleoedd a phrofiadau i ehangu fy sgiliau cyfarwyddo, a hefyd yn meithrin gwell ddealltwriaeth o'r sector gelfyddydau yn gyffredinol. Gweithio gydag artistiaid aml-gyfrwng i gyd-greu a rhwydweithio.

MAE'R 18 MIS DIWETHAF WEDI BOD YN ANODD, OND BETH YW'R PETHAU POSITIF SYDD WEDI DOD O'R CYFNOD YMA I TI, A BETH YW DY OBEITHION AR GYFER Y DYFODOL?

Er bod y 18 mis diwethaf wedi bod yn heriol i bawb, dw i'n teimlo mai un o'r pethau cadarnhaol i ddod o'r profiad yma yw ei fod wedi ein gorfodi ni i edrych ar beth sydd fwyaf pwysig, ac i ystyried sut rydyn ni'n cymryd pethau'n ganiataol. Mae Covid wedi pwysleisio pa mor bwysig yw'r celfyddydau i'n lles ni. O ganlyniad, mae pobl wedi defnyddio ffurfiau gwahanol ar gelfyddyd i'w helpu nhw ymdopi â'r pandemig - o ddarlunio lluniau i roi yn eu ffenestri i gynnal cyngherddau cerddorol ar eu balconïau.

Drwy addasu yn ystod y pandemig, mae'r celfyddydau wedi llwyddo i ddenu ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd. Gobeithiaf y caiff hyn ei adeiladu arno at y dyfodol, a bod y sector gelfyddydau'n croesawu pawb.

I mi mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn gyfle i fyfyrio ar yr hyn dw i am ei wneud yn fy ngyrfa, ac wedi fy ysgogi i ddilyn fy mreuddwyd o fod yn gyfarwyddwr ac o weithio yn y sector gelfyddydau.

YM MHLE GALLWN NI WELD DY WAITH? 

Gallwch fy nilyn i ar Twitter - @TafsilaMME@BlindspotTC

Gallwch weld fy ngwaith gyda Taking Flight Theatre yma, a fy ngwaith gyda'r Sherman yma.