I ddathlu Diwrnod Windrush 2020, roedden ni eisiau tynnu sylw at y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan un o’n Llysgenhadon Cymunedol, sef Roma Taylor.
Mae Roma’n gwirfoddoli yma ac yn helpu pobl i ddod i sioeau drwy ledaenu’r gair a rhannu mynediad at y tocynnau cymunedol sydd ar gael.
Mae hi hefyd wedi bod yn gweithio gyda ni i weld sut gallwn ni sicrhau mwy o amrywiaeth yn ein rhaglen artistig – gan ddod ar dripiau, gofyn cwestiynau (heriol ond campus) a gwneud yn siŵr ein bod ni’n dal ati i gynrychioli cymunedau Duon ac amrywiol o ran Ethnigrwydd ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud.
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Our%20Story/Blog/Windrush%20Day%202020/roma.jpg)
‘I love the access to tickets that we can share with family and friends who wouldn’t be able to afford it otherwise. For £5 it's a blessing.’
Roma
Daeth Roma i Gymru o’r Caribî yn 15 oed. Ar ôl hyfforddi fel nyrs, fe fuodd hi’n gwasanaethu fel swyddog meddygol yn y Fyddin Diriogaethol gan fagu teulu yng Nghaerdydd ar yr un pryd.
Erbyn hyn, mae hi’n 76 oed ac yn arwain grŵp Hynafwyr Windrush Cymru https://racecouncilcymru.org.uk/windrush-cymru-elders yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Our%20Story/Blog/Windrush%20Day%202020/roma4.jpg)
Mae Roma’n trefnu gweithgareddau a diwrnodau allan i’r grŵp sydd i gyd yn hanner cant oed neu’n hŷn, ac mae’n ymgyrchu’n ddiflino i sicrhau bod y llywodraeth ac awdurdodau lleol yn diwallu anghenion pobl hŷn Cymru.
Mae hefyd yn dal i weithio er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu haddysgu am gymunedau amrywiol Cymru.
Mae Roma’n hoff o fynd i’r theatr ac wrth ei bodd gyda chanu a dawnsio. Ychydig cyn i’r cyfnod clo ddechrau, fe fuodd hi yn Old Vic Bryste i weld Rush A Joyous Jamaican Journey ac roedd yn falch iawn o gael ail-fyw rhai o ganeuon ei hieuenctid.
Pobl fel Roma ac aelodau cymunedol eraill sy’n ein gwneud ni hyd yn oed yn fwy ymrwymedig i’n gwaith yn Butetown gyda thîm y Carnifal ac i’r bwriad o ddod â’r caneuon a’r straeon yma i’n llwyfannau hefyd ryw ddydd.
Fel un o’n Llysgenhadon, mae Roma’n dal i gysylltu ei theulu, ei ffrindiau a phobl hŷn eraill â’r Ganolfan, ac mae’n wyneb cyfarwydd yn ein gwleddoedd cymunedol.
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_auto,h_300,q_auto:eco,w_500/v1/WMC%20Content/Our%20Story/Blog/Windrush%20Day%202020/roma1.jpg)
Felly, mae heddiw’n gyfle i ddathlu ac i ddiolch i Roma am ei hegni a’i hymroddiad anhygoel i’w gwaith yma yn y Ganolfan ac i holl Genhedlaeth Windrush am eu cyfraniad i Butetown, Caerdydd, Cymru a Phrydain.
Mae Roma’n cefnogi dathliadau Windrush 2020 Byw Cyngor Hil Cymru y gallwch eu gwylio yma.
![](https://res.cloudinary.com/wales-millennium-centre/image/upload/c_fill,f_auto,g_center,h_300,q_auto:eco,w_600/v1/WMC%20Content/Get%20Involved/Community%20and%20Family/20200301_WMC_StDavidsDay_126.jpg)
Helpwch ni i barhau â'n gwaith cymunedol a chreadigol
Mae sawl ffordd i chi ein cefnogi