Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Actor Luke Hereford applying lipstick on stage

Galwad Rhagddangosiadau Caeredin

Gyda’r Ŵyl Ymylol Caeredin nesaf ar y gweill, rydyn ni'n cynnig cyfle i hyd at naw cwmni ragddangos eu gwaith yn ein gofod Cabaret.

Bydd pob cwmni yn cael cynnig dau slot perfformio dros ddau benwythnos (19–21 a 25–27 Gorffennaf) i roi cynnig ar eu gwaith a gwneud eu haddasiadau olaf er mwyn bod yn barod ar gyfer Caeredin!

Byddwch chi’n cael y canlynol:

Tocynnau a sefyllfa ariannol

Bydd pob cwmni ar raniad 80/20 o arian tocynnau er budd y cwmni sy’n ymweld, a bydd 150 o seddi yn y lleoliad.

Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn gwerthu’r tocynnau ac yn rhoi gwybod i’r cwmnïau am eu gwerthiant drwy adroddiadau wythnosol i ddechrau ac yn hwyrach dyddiol.

Bydd pob tocyn yn cael ei werthu am bris rhagddangosiad o £12. Bydd TAW o 20% yn cael ei dynnu o gros yr arian CYN y rhaniad (gan wneud pob tocyn werth £9.60, felly £7.68 i chi). Does dim costau eraill o ran tocynnau, taliadau prosesu na didyniadau a does dim blaendal i’w dalu i Ganolfan Mileniwm Cymru na ganddi.

Bydd pob cwmni yn cael pedwar tocyn cyfarch. Bydd unrhyw docynnau ychwanegol yn cael eu tynnu o raniad y cwmni sy’n ymweld.

Os byddwch chi’n gwerthu llai na 40 o docynnau, rydyn ni’n cadw’r hawl i ganslo eich perfformiad.

Rhaid i’ch sioe fod yn awr o hyd a bod yn mynd i Ŵyl Ymylol Caeredin ym mis Awst 2024. Ni allwch berfformio eich sioe yng Nghaerdydd yn ystod y ddeufis cyn neu’n dilyn eich perfformiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Amserlennu

Bydd pob cwmni yn cael slot o 90 munud. Mae hyn yn caniatáu 10 munud i osod, 5 munud i gael y gynulleidfa i mewn a 10 munud i glirio. Bydd hyn yn debyg iawn i beth mae’r mwyafrif o leoliadau yng Nghaeredin yn ei gynnig, felly mae’n gyfle gwych i ddeall beth sydd ei angen a chael ymarfer.

Bydd gennym hyd at dri slot bob nos wedi’u hamserlennu ar gyfer 7pm, 8.30pm a 10pm. Bydd angen i chi gadw at yr amserlen yn agos fel y gall sioeau perfformwyr eraill redeg ar amser.

Mae bar Cabaret yn cadw’r hawl i weithredu gwasanaeth bwrdd drwy god QR yn ystod pob sioe.

Technegol

Bydd ein tymor Rhagddangosiadau Caeredin yn fwyaf addas ar gyfer sioeau heb lawer o set nag anghenion technegol.

Byddwn ni’n cynnig un ymarfer technegol i bob cwmni o hyd at uchafswm o ddwy awr gan gynnwys gosod a chlirio’r set, ac yn darparu technegydd ar gyfer eich sioe.

Bydd gennym olchiad syml gyda rhai golchiadau lliw ar gael. Dim blacowt a dim ‘specials’.

Byddwn ni’n rhedeg sain os byddwch chi’n darparu ffeil Qlab i ni.

Mae gennym ddau ficroffon di-wifr. Mae hefyd gennym biano trydanol yn y gofod y gallwch ei ddefnyddio. Rhaid i chi ddod ag unrhyw beth arall sydd ei angen arnoch chi.

Gallwn ni gynnig rywfaint o le storio, a rhaid trefnu ceisiadau ymlaen llaw.

Dydyn ni ddim yn cynnig lle i barcio ar y safle, dim ond i gasglu a gollwng.

Rhestriadau a marchnata

Bydd pob sioe yn cael tudalen benodol ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru ar gyfer tocynnau a gwybodaeth.
I gael eich rhestru ar y wefan, rhaid i chi ddarparu copi 40 o eiriau ar gyfer eich sioe a delwedd hyrwyddo tirlun heb destun mae gennych y drwydded ar ei chyfer.

Bydd pob sioe yn cael postiad grid penodol ar sianel Instagram Cabaret Canolfan Mileniwm Cymru a dau bostiad stori Instagram.

Os byddwch chi’n darparu asedau ychwanegol (lluniau/rhaglun/cynnwys fideo) yna mae’n bosibl y byddan nhw’n cael eu cynnwys, ond dim ond y postiadau uchod sy’n sicr.

Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn hyrwyddo tymor Rhagddangosiadau Caeredin yn ei gyfanrwydd ond ni fydd yn hyrwyddo sioeau unigol.

Felly, fel yng Nghaeredin, bydd angen i chi fod yn greadigol i helpu i ddenu cynulleidfa.

Gwneud cais

Anfonwch eich copi 40 o eiriau ar gyfer eich sioe, eich prif ddelwedd marchnata (i’w defnyddio ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru) a hyd at bedair delwedd ychwanegol atom.

Anfonwch hefyd unrhyw ddolenni at sianeli cymdeithasol eich sioe/perfformiwr, unrhyw adolygiadau blaenorol ac unrhyw ddeunydd fideo priodol.

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan gwmnïau ac artistiaid o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru yn arbennig.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref creadigol i bawb; hoffem roi gofod i bobl a straeon sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a chefnogi’r rhai sy’n wynebu gwahaniaethu. Os hoffech chi gael cyngor am eich cais, cysylltwch â ni.

Dyddiad cau: Dydd Llun 1 Ebrill 2024

E-bost: artists@wmc.org.uk