Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cân newydd o Branwen: Dadeni

Gyda dim ond ychydig wythnosau i fynd tan noson agoriadol ein sioe Gymraeg fwyaf erioed, gwrandewch ar Mared Williams yn canu’r gân atgofus yma o Branwen: Dadeni.

Wedi’i recordio yn Tŷ Cerdd a gyda’r Cyfarwyddwr Cerddorol Geraint Owen yn cyfeilio, dyma eich cyfle cyntaf i glywed un o’r caneuon gwreiddiol Eira yn llawn, a fydd yn creu hanes pan fydd yn agor yn ein Theatr Donald Gordon fis nesaf, cyn teithio o amgylch Cymru.

Cerddoriaeth gan: Seiriol Davies
Llyfr a Geiriau gan: Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies

Mae tocynnau wedi bod yn gwerthu yn gyflym iawn, ac mae’r daith wedi gwerthu allan yn llwyr, ond gallwch chi archebu ar gyfer dyddiadau Caerdydd o hyd. Ymunwch â ni ar yr antur gyffrous yma, wedi’i chynhyrchu gan dîm rhyfeddol o artistiaid Cymraeg o’r radd flaenaf.

Teyrnas ar chwâl. Brenhiniaeth lwgr. Cenhedlaeth newydd yn ysu am newid. Sioe gerdd epig Gymraeg yw Branwen: Dadeni sy’n dod ag un o’n chwedlau mwyaf adnabyddus i mewn i’r byd cyfoes.

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru + Frân Wen.

Theatr Donald Gordon 8 – 11 Tachwedd 2023

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth 15 – 17 Tachwedd 2023 WEDI GWERTHU ALLAN

Pontio, Bangor 22 – 25 Tachwedd 2023 WEDI GWERTHU ALLAN