Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Cwpl lesbiaidd rhynghiliol hŷn yn cofleidio’n gariadus

Adolygiadau pum seren i Es & Flo

Agorodd ein cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru diweddaraf, Es & Flo, wythnos diwethaf a chafodd adolygiadau anhygoel, gyda South Wales Life yn ei ddisgrifio fel “unmissable”.

Mae’r ddrama newydd yma gan Jennifer Lunn yn dathlu cariad perthynas lesbiaidd hŷn, menywod yn dod at ei gilydd i ymladd dros beth sy'n iawn, a phŵer iachaol teulu dewisol.

Gwyliwch ein rhaglun newydd i weld beth mae pobl wedi bod yn ei ddweud hyd yma...

Yn arwain y cast o bum cymeriad benywaidd, sy’n amrywio mewn oed o wyth i 71, mae Doreene Blackstock (Sex Education gan Netflix, The Colour Room gan Sky) a Liz Crowther (Animal Farm gan y National Theatre).

Gwnaethom ni sgwrsio â’r ddwy ohonyn nhw i ddysgu mwy am eu cymeriadau.

ALLWCH CHI EIN CYFLWYNO NI I GYMERIADAU ES A FLO?

Liz: Cwpl lesbiaid rhynghiliol hŷn yw Es a Flo sydd wedi bod gyda’i gilydd am 40 mlynedd ac mae ganddyn nhw berthynas agos, gariadus ac angerddol. Roedd gan y ddwy swyddi diddorol – roedd Flo yn llyfrgellydd ac roedd Es, fy nghymeriad i, yn athro. Cyn iddyn nhw gwrdd, roedd Es yn briod â dyn a chawson nhw fab – ond mae wedi cuddio ei pherthynas â Flo rhagddo. Pan rydyn ni’n gweld Es am y tro cyntaf yn y ddrama, rydyn ni’n sylweddoli ei bod hi’n dangos arwyddion o ddementia a, chyn hir, mae rhywun yn cnocio ar y drws – sy’n golygu bod eu sefyllfa yn dechrau newid a bod cyfrinachau yn cael eu datgelu.

Doreene: Dw i’n chwarae Flo – mae’n gymeriad anhygoel – brwdfrydig ac angerddol – ac, yn fwy na dim, mae wir yn caru. Cwrddodd hi ag Es yng Ngwersyll Heddwch Greenham Common yn yr 80au, ac mae dal ganddi’r ymgyrchedd ynddi i frwydro dros beth sy’n iawn a beth mae’n credu ynddo. Mae’n dwli ar ei bywyd ac yn caru Es yn fawr, ond mae Adran 28 wedi gwneud eu perthynas yn gymhleth sydd yn gwneud eu sefyllfa yn hynod o anodd wrth i iechyd Es ddirywio.

BETH WNAETH EICH DENU AT Y RÔL?

Doreene: Roedd hi’n stori gwiar y gallwn i uniaethu â hi, ac roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n gyfle i adrodd stori ar y llwyfan nad oeddwn i wedi’i gweld o’r blaen. Rydyn ni’n gweld digonedd o bobl gwiar ifanc ar y llwyfan a’r sgrin, ond mae’r stori yma am ddwy fenyw hŷn... menywod sydd wedi byw bywyd na fyddech chi’n disgwyl iddyn nhw fod wedi byw. Y rhan fwyaf o’r amser mae menywod fel Es a Flo yn ymddangos bron yn anweledig ond, gyda stori Jen (Lunn), byddan nhw’n weledol ar y llwyfan, ac roeddwn i’n meddwl bod hynny’n anhygoel ac yn rhywbeth roeddwn i am fod yn rhan ohono.

Liz: Roeddwn i wrth fy modd â’r stori o sut wnaeth Es a Flo gwrdd yng Ngwersyll Heddwch Greenham Common yn yr 80au ac roedd hynny’n apelio ata i’n fawr. Mae’n rhan mor anhygoel o’n hanes ond mae’n cael ei hanghofio yn aml. Pan roedden ni’n ymarfer yn Llundain, gwnaethon ni gwrdd â rhai o’r menywod a oedd yn rhan o’r gwersyll, a’u merched. Roedd cwrdd â nhw yn anrhydedd – gwnaethon nhw lwyddo i newid pethau gyda’u gweithredoedd uniongyrchol di-drais ond eto roedd rhaid iddyn nhw ymdopi â chymaint o bethau – roedd pethau ofnadwy yn cael eu hysgrifennu amdanyn nhw yn y wasg, a gwnaeth rhai golli eu plant – sydd wedi digwydd i Es yn y ddrama. Yn Es & Flo, rydyn ni’n canu rhai o ganeuon Greenham fel ‘We are women, we are strong’. Pan fyddwn ni’n eu perfformio nhw, rydyn ni wir yn teimlo’r datganiadau yma. Mae’n ddrama rymusol iawn.

SUT BROFIAD YW GWEITHIO FEL RHAN O GAST A THÎM CREADIGOL SYDD I GYD YN FENYWOD?

Doreene: Mae’n wych gweithio gyda’r tîm yma – mae’n amgylchedd diogel iawn ac rydyn ni gyd yn gofalu am ein gilydd. Rydych chi’n mynd i mewn i ystafell ymarfer groesawgar, ac mae’n chwareus a doniol iawn – fel cwmni rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n iawn i fod yn fregus a gwneud camgymeriadau ac rydyn ni i gyd yn ddynol iawn. Mae’r holl fenywod yn y ddrama yn rhan hanfodol o’r plot – maen nhw i gyd yn fenywod cryf sydd â chyfrinachau – ac maen nhw i gyd wedi newid er gwell erbyn diwedd y ddrama. Mae’n anrhydedd rhannu’r llwyfan â Liz, Michelle, Adrianna, Reesie, a Mirella.

Mae Es & Flo yn ein Stiwdio Weston tan ddydd Sadwrn 13 Mai, ac yna mae’n trosglwyddo i’r Kiln Theatre yn Llundain, 5–24 Mehefin 2023.