Ac yntau wedi ei alw’n “y coreograffydd mwyaf llwyddiannus a dylanwadol sy’n fyw” gan y New York Times, mae’r coreograffydd Americanaidd Mark Morris yn dod i’r ddinas ym mis Ebrill eleni gyda’i deyrnged i un o’r albymau sydd gwerthu orau erioed: Sgt. Pepper’s Lonely Heart Club Band y Beatles.
DYMA BEDWAR PETH GWYCH I’W GWELD YN Y SIOE LIWGAR HON
1. Y DAWNSIO
Bydd coreograffi trawiadol gan Mark Morris yn chwistrellu hiwmor, hwyl ac angerdd i’r cynhyrchiad bywiog hwn gyda digon o adleisiau o’r Chwedegau, deuawdau agos-atoch a phortreadau prydferth.
2. Y Gerddoriaeth
P’un a ydych yn un o garedigion y Beatles ai peidio, bydd y cynhyrchiad hwn yn eich syfrdanu gydag ensemble byw hynod sy’n cynnwys sacs, trombôn, allweddell, offerynnau taro a chantor byw yn chwarae trefniannau Ethan Iverson o ganeuon clasurol y Beatles, o ‘Penny Lane’ i ‘When I’m 64’.
3. Y GWISGOEDD
Bydd siŵr o fod angen sbectol haul arnoch am fod gwisgoedd Elizabeth Kurzmann yn llachar a beiddgar, gyda chysgodluniau’r Chwedegau, patrymau seicedelig, siwtiau, a sgertiau mini. Mae’n llawn lliw!
4. Y TEIMLAD
P’un a ydych yn un o garedigion y Beatles ai peidio, byddwch yn wên o glust i glust ar ôl y sioe gerdd hon. Ond pan fyddwch adre, byddwch yn ofalus wrth geisio efelychu unrhyw symudiadau dawns a welsoch yn y gegin...