Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gofod Creu

Rydyn ni wrth ein boddau'n cyhoeddi prosiect newydd sbon a fydd yn gweddnewid gofodau tu fewn i'n hadeilad, gan greu stiwdios newydd a chyffrous lle y gall bawb fod yn greadigol.

Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi darparu llawer o brosiectau dysgu creadigol a chymunedol i ysgolion, pobl ifanc a chymunedau, gyda llawer o'r gwaith yn digwydd oddi ar y safle neu mewn ystafelloedd a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau.

Ac er bod yr ystafelloedd yma wedi bod yn ddefnyddiol iawn dros dro, ni chynlluniwyd y gofodau ar gyfer yr ystod eang o weithdai rydyn ni'n ei gynnig bellach, megis ffilm a chynllunio gwisgoedd, dawns, drama a chynllunio set.

Wrth i'n rhaglen ddatblygu mae'r angen am ofodau pwrpasol wedi tyfu hefyd. Dychmygwch yr hyn gallai bobl ifanc a'n cymunedau gwych ledled Cymru ei greu petai fodd i ni roi'r gofod iddyn nhw arbrofi a chreu?

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori gyda grwpiau o bobl ifanc ac aelodau o'r gymuned (a ffurfiodd ein grŵp dylunio), daeth yn amlwg beth gallai'r gofodau ei gynnig.

Bydd y prosiect newydd, cyffrous yma'n agor byd o greadigrwydd o du fewn ein hadeilad, a hynny drwy ddatblygu gofodau pwrpasol, aml-ddefnydd wedi'u teilwra i archwilio creadigrwydd a mynegiant.

Jason Camilleri, Uwch Gynhyrchydd Dysgu Creadigol

Mae llawer o'r gweithgareddau rydyn ni'n eu cynnal o ganlyniad uniongyrchol i roddion hael, aelodaeth a chyllid grant. Hoffem ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau CymruMoondance Foundation a Garfield Weston, The Simon Gibson Charitable Trust am ein galluogi ni i barhau ein gwaith yn cefnogi doniau creadigol, pobl ifanc a chymunedau sydd angen creadigrwydd nawr yn fwy nag erioed.