Mae Cyngor Caerdydd yn cydweithio â sefydliadau ledled Caerdydd yr haf hwn, i gyflwyno Gwên o Haf - gweithgareddau am ddim i blant o 25 Mehefin tan 29 Awst.
Mae gennym ni lwyth o weithgareddau cyffrous ar y gweill ar gyfer y teulu cyfan ym Mae Caerdydd, ac mae'r rhan fwyaf am ddim. O ddawnsio gyda deinosoriaid i sesiynau erobig drag, sioeau hud doniol a llawer mwy. Dyma gipolwg o'r hyn sydd ar y gorwel...
Dydd Gwener 6 Awst
Y tu allan i'n hadeilad, 11am - 12pm: Mae Mr Ruffles wedi cyrraedd ac mae e am gael hwyl a sbri. Dewch draw i ymuno ag e ar gyfer sioe hud wirion gyda llwyth o gomedi corfforol, gemau, dawnsio, canu a mwy. Perffaith ar gyfer plant sydd ag anghenion arbennig a'u ffrindiau.
Y tu allan i'n hadeilad, 3pm - 4pm: Bydd Dolly Trolley Drag Aerobics yn cyflwyno sesiwn ymarfer corff anhygoel, beiddgar a hwyliog i deuluoedd. Gallwch ddisgwyl colur, symudiadau, swish-bisho a mwy, i drac sain o rai o ffefrynau Dolly Trolley, gan gynnwys The Pointer Sisters, Shania Twain, Avril Lavigne, Lizzo a Walt Disney.
Dydd Sadwrn 7 Awst
Y tu allan i'n hadeilad, 11am - 12pm / 2pm- 3pm: Mwynhewch sioe syrcas unigryw a doniol George Orange, Man on the Moon. Mae George yn glown ecsentrig sydd yn dynwared, yn dawnsio, yn jyglo ac yn plygu ei hun i wahanol siapau, tra'n lledaenu llawenydd i bawb sy'n gwylio.
Y tu allan i'n hadeilad, 3pm - 3.30pm: Afrodance â Reuel. Mae dawns wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Reuel ers ei ieuenctid. Dechreuodd yn y celfyddydau perfformio yn gwneud theatr, yn ymddangos mewn sioeau fel 'Cats' a 'West Side Story' cyn mynd ymlaen i hyfforddi arddulliau stryd gyda 'The Project' a dod yn rhan o’r Jukebox Collective. Mae e hefyd wedi ymddangos ar CBBC, roedd yn ail ar y sioe ddawns boblogaidd 'Got To Dance', ac mae e wedi ymddangos mewn sawl perfformiad theatr. Mae e bellach yn dysgu fel rhan o’r Jukebox Collective ac yn dilyn gyrfa mewn cerddoriaeth.
Dydd Sul 8 Awst
Y tu allan i'n hadeilad, 11am - 12pm a 1pm - 2pm: Bydd RSVP Bhangra Dance Workshop yn cael pawb ar eu traed ac yn diddanu ac yn cyffroi’r gynulleidfa gyfan. Mae pob sioe'n cynnwys cyflwyniad i ddawnsio Bhangra, gyda phwyslais ar bartïo yn arddull Punjabi. Dyma ddathliad go iawn o gerddoriaeth Indiaidd.
Y tu allan i'n hadeilad, 2:30pm - 3.30pm: Bobby Singh - bydd yr artist Bollywood a Bhangra blaenllaw yn canu 'Churaliya' a 'Mundian Toh Bache Ke' (Panjabi MC) ochr yn ochr ag Amruta Garud a fydd yn perfformio clasuron Bollywood. Ceir hefyd perfformiadau gan fyfyrwyr o ysgol gerdd Amruta.
9 - 11 Awst
Cynhelir sesiynau rhwng dydd Llun 9 – dydd Mercher 11 Awst, 11am i 5.30pm tu allan i’r Caffi. *Mae'r digwyddiad hwn nawr yn llawn.*
Dydd Iau 12 Awst
Ger y cylch wrth ymyl Canolfan y Ddraig Goch,11am - 11.30am a 2pm - 2.30pm: Mae The Great Insect Games ar y ffordd, felly twymwch eich corff a byddwch yn barod! Wedi'u cyflwyno gan sioncod y gwair sy'n byw a bod yn y gampfa, dyma sioe ddwyieithog sy'n llawn trychfilod bywiog a llond lle o hwyl a sbri ar gyfer y teulu cyfan!
Y tu allan i'n hadeilad, 12.30pm - 1.30pm: Ymunwch â Connie Orff yng nghanol Bae Caerdydd ar gyfer Amser Stori Brenhines Drag. Treuliwch fore hafaidd gyda Brenhines y ddinas, wrth iddi rannu straeon twymgalon, gwych.
Y tu allan i'n hadeilad, Mae The Greatest of Shows yn sioe forio canu rhyngweithiol byw yn serennu Donna Marie, Gavin Sheppard a Louise Halliday. Bydd y cast rhagorol yn eich cael chi ar eich traed i ddawnsio a chyd-ganu i rai o'r sioeau a ffilmiau cerdd gorau a fu erioed.
Dydd Sadwrn 14 Awst
Y tu allan i'n hadeilad, 3.30pm - 4pm: Afrodance, gweithdy dawns a gyflwynir gan yr anhygoel Jukebox Collective gyda Plamedi Santima-Akiso. Ganwyd Plamedi yn y Congo a sylfaenodd AfroJam. Mae AfroJam yn dysgu Dawnsio Affro, yn rhannu diwylliant prydferth Affricanaidd ac yn helpu eraill i fynegi eu hunain yn llawn.
Ger y cylch wrth ymyl Canolfan y Ddraig Goch, 11am - 11.30am a 2pm- 2.30pm: The Great Insect Games
Sioe Dân: Daw Organised Kaos â thamaid o wres i'r Bae gyda'u sioe dân anhygoel. Amser i'w gadarnhau.
Dydd Sul 15 Awst
Ger y cylch wrth ymyl Canolfan y Ddraig Goch,10am - 10.30am a 1pm - 1.30pm: The Great Insect Games
Y tu allan i'n hadeilad, 2.30pm - 4pm: Street Dance Workshop. Dysgwch sut i Ddawnsio Stryd gyda'r dawnsiwr a choreograffydd rhyngwladol poblogaidd, Leighton Wall, gyda chefnogaeth gan Gymuned Ddawnsfa Cymru.
Ger y cylch wrth ymyl Canolfan y Ddraig Goch, 12pm - 12.30pm a 4.30pm - 5pm: Bydd Splatch Arts a Leyton John yn cyflwyno profiad personol Leyton o sglerosis ymledol, mewn ffordd chwareus a thwymgalon, sy'n addas i'r teulu cyfan.
Byddant hefyd yn cyfleu agweddau at anabledd wrth i ddau berfformiwr syrcas chwarae rhan y diafol a llais rheswm. Mae Alter Ego yn archwilio canfyddiadau cymdeithasol o anabledd mewn ffordd ysgafn a hwyliog, ac yn myfyrio ar brofiadau go iawn.
Dydd Gwener 20 Awst
Y tu allan i'n hadeilad: Sparklettes - Hwyl drwy'r dydd!
Y tu allan i'n hadeilad, 10am - 10.30am a 2pm - 2.30pm: Daw It Don’t Mean a Thing â glityr a disgleirdeb y 1920au i'w dawns. Byddant yn cyflwyno'r Charleston clasurol gydag arddull gyfoes.
Y tu allan i'n hadeilad, 10:30am - 11am a 2:30pm - 3pm: Ydych chi'n chwilio am dric parti newydd? Arhoswch gyda ni ar ddiwedd y perfformiad, i ymuno â'r Gweithdy Hula a dysgwch yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn arwr/es hula.
Y tu allan i'n hadeilad, 12pm - 1pm a 4pm - 5pm: Dino Disco - agorwch y drws a dewch i'r llawr i ddawnsio disgo gyda'r deinosoriaid. Mae'r deinosoriaid ar daith o amser cyntefig, ac am i chi ymuno yn y parti'r haf yma. Ymunwch â ni a mwynhewch barti fel petai'n 65 miliwn C.C.
Dydd Sadwrn 21 Awst
Y tu allan i'n hadeilad, 11am - 11.30am a 1.45 - 2.15pm: Mae Qwerin yn berfformiad ddawns gyfoes sy'n ymestyn ffiniau dawnsio gwerin draddodiadol Gymreig. Gan gymryd ysbrydoliaeth gan ddiwylliant clybiau Cwiar a phatrymau dawnsio gwerin, mae Qwerin yn ddawns gwerin Gymreig gyda gwahaniaeth.
Mae gwreiddiau Qwerin mewn cymuned. Mae'n amlygu gwerth profiadau a rennir a phwysigrwydd cael gofod sy'n dod â phobl ynghyd. Gan wneud sylw ar syniadau Cymreictod a bod yn Cwiar, mae Qwerin yn ceisio uno pobl mewn perfformiad llawen o gerddoriaeth a dawns i ddathlu diwylliant, hunaniaeth a chymuned.
Y tu allan i'n hadeilad, 12.30pm - 1.30pm: Gweithdy Voguing - Dysgwch am grefft Vogue Femme gydag Aysha Tea o'r KiKi House of Tea, gyda chefnogaeth gan Gymuned Ddawnsfa Cymru.
Y tu allan i'n hadeilad, 3pm - 4pm: Lady Gaga Tribute - Profwch berfformiad hudolus Donna Marie, sydd wedi ennill llu o wobrau am ei theyrnged i Lady Gaga. Mae'r sioe yn ddathliad go iawn o ganeuon mwyaf poblogaidd a chofiadwy Lady Gaga. Mwynhewch lais anhygoel Donna Marie, sy'n swnio'n union debyg i Lady Gaga, gwisgoedd creadigol gwych a choreograffi arbennig Gaga.
Mae llawer mwy i ddod - yn cynnwys abseilio i lawr ochr Canolfan Mileniwm Cymru, teithiau technegol a llwyth o weithdai hwyliog. Cadwch lygad ar wefan Gwên o Haf i weld y rhaglen lawn.