Pedair gŵyl Gymreig, dau ddiwrnod, un rhestr o artistiaid gwych... dyma gyflwyno Gŵyl 2021.
Mae pedair o hoff wyliau Cymru – Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth – wedi dod ynghyd yn ystod y cyfnod clo i greu Gŵyl 2021; gŵyl ar-lein am ddim yn llawn dop â cherddoriaeth a chomedi cofiadwy, sy’n cofleidio amrywiaeth a sgwrs.
Wedi’i ffilmio neu’i recordio mewn lleoliadau ledled Cymru ac yn rhyngwladol o dan ganllawiau Coronafeirws, bydd Gŵyl 2021 ar gael ar draws y DU ar www.bbc.co.uk/gwyl2021 drwy gydol penwythnos 6-7 Mawrth.
Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'r ŵyl yn taflu goleuni ar obaith a gwytnwch y sin creadigol yng Nghymru a ledled y DU, gan ddod ag artistiaid a chynulleidfaoedd ynghyd ar gyfer gwledd ddigidol. Ydych chi'n gweld eisiau gwyliau eleni? Ymunwch â ni!
Fel pob gŵyl gwerth ei halen, bydd Gŵyl 2021 yn dathlu lleisiau cyfarwydd ac yn darganfod lleisiau eclectig a newydd, o Gymru a thu hwnt.
Artistiaid yr ŵyl
Jaffrin
Faith
Arlo Parks
Cate Le Bon
Brett Anderson
Dhun Dhora
Jukebox Collective
Bhekizizwe
Charlotte Adigéry
Sprints
Faith
Luke RV
King Khan
Aleighcia Scott
Reuel Elijah
Mae’r artistiaid yn cynnwys Cate Le Bon yn cydweithio â Gruff Rhys, yr arobryn Kiri Pritchard-McLean, Tim Burgess’ Listening Party, a Catrin Finch; yn ogystal â BERWYN (BBC Music Sound of 2021), Carys Eleri (Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)), Arlo Parks a Dani Rain, sef drymiwr y grŵp Neck Deep.
Ymhlith uchafbwyntiau eraill mae Charlotte Adigéry, Adwaith – y grŵp ‘post-punk’ a enillodd Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Sinead O’Brien y Wyddeles sy’n fardd ac yn arloeswr ‘art rock’, a Jordan Brookes enillydd Gwobr Comedi Caeredin; Ani Glass a enillodd wobr Albwm Cymraeg y flwyddyn, Sprints y grŵp o Ddulyn, N’Famady Kouyate – y cerddor o Gini, sy’n byw yng Nghaerdydd, a’r grŵp sgetsh Tarot. Mae cwmni dawns Jukebox Collective hefyd wedi curadu perfformiadau gan yr artist reggae Aleighcia Scott, yr artist RnB/canu enaid Faith, y rapiwr King Khan, y canwr a rapiwr Reuel Elijah a’r artist gair llafar Jaffrin Khan a rhagor.
Bydd perfformiad ecsgliwsif, unigryw gan Brett Anderson, Charles Hazlewood a Paraorchestra, yn cyflwyno’r gwestai arbennig Nadine Shah, yn ogystal â phenodau arbennig o’r podlediad comedi Welcome to Spooktown ac I Wish I Was an Only Child, gydag ambell i westai gwadd Cymreig cyfarwydd.
Ymunwch yn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio’r hashnod #gŵyl2021
Caiff yr ŵyl ei darlledu drwy gydol y penwythnos, ac roedd modd gwylio cynnwys yr ŵyl am saith diwrnod ar y safle, yn dilyn yr ŵyl.
Cefnogir gan Lywodraeth Cymru.