Croeso i'n byd o fenywod ysbrydoledig a grymus. Darllenwch ymlaen i weld ein argymellion yn cynnwys rhai o fenywod mwyaf pwerus, syfrdanol y theatr.
"We have plenty of powerhouse femme voices in this season, but it isn’t just this one dimension of womanhood, the big and the bold that we look to champion. We want women from all walks of life to feel themselves reflected on our stages."
Bron Davies, Assistant Producer
This is me Shirley Bassey
24 Hydref 2019
Bydd Rachael Roberts yn serennu fel Dame Shirley Bassey, y ferch o Tiger Bay, Caerdydd a aeth ymlaen i werthu 135 miliwn o recordiau, gan wefreiddio cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’i persona chryf a’i llais pwerus ar ganeuon megis Diamonds Are Forever a Goldfinger.
On Your Feet!
21 – 26 Hyd 2019
Mae Gloria Estefan yn seren byd-eang ac yn model rôl benywaidd hynod ysbrydoledig. Codwch ar eich traed a phrofwch phrofwch stori'r fenyw anhygoel o strydoedd brodorol Ciwba, i strydoedd Miami ac i enwogrwydd byd-eang.
9 To 5 The Musical
29 Hyd – 2 Tach 2019
Wrth i Judy, Doralee a Violet brwydro yn erbyn ymddygiad ofnadwy eu rheolwr, ymunwch â'r tair menyw pwerus wrth iddyn nhw brofi bod menywod yn gallu rheoli. Gyda chaneuon grymus a choreograffi dynamig, byddwch sicr o deimlo wedi eich grymuso wrth i chi adael y theatr.
Hive City Legacy
7 – 9 Tach 2019
Yn wynebu materion rhywedd, hîl a iechyd meddwl mae'r sioe terfysglyd ac ysgogol gan y femmes o liw yn gyfuniad ffrwydrol o acrobateg yn yr awyr, bît-bocsio, y gair llafar a dawnsio cyfoes. Bydd Hive City Legacy yn codi, grymuso ac ad-drefnu’r status quo.
The Year My Vagina Tried to Kill Me
7 Tach 2019
Mae'r comediwraig a'r gwneuthurwraig theatr Amy Vreeke yn gwenud y pendefyniad dewr a beiddgar i roi straeon menywod wrth wraidd ei gwaith. Yn trafod ei thaith trwy endometriosis, afieichyd bythol sydd yn gallu effeithio un mewn deg o fenywod, mae'n chalu'r tabŵ sydd yn amgylchynu iechyd menywod.
Never the Bride
8 Tach 2019
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno'r deuawd dynamig Never the Bride sy'n camu i lwyfan Ffresh.
Mae gan y ddeuawd roc a rôl benywaidd yma talend grai, dilyffethair ac maent yn sicr wedi gwenud argraff ar eu cynulleidfa trwy gydol eu 25 blwyddyn o enwogrwydd byd-eang.
Wedi iddynt gefnogi The Who, Elton John, and Bryan Adams, mae'n amlwg bod gan y menywod yma dalent gwefreiddiol... oes gennych chi docyn?
Cer i grafu... Sori... Garu!
Volcano Theatre, Abertawe 7 Tach 2019
Ffresh, Caerdydd 28 – 30 Tach 2019
Mae'r enilllydd Gwobr Cabaret Gorau Gŵyl Fringe Adeilaide yn 2019 a'r enwebai BAFTA Cymru, Carys Eleri yn dychwelyd yn ôl i le ddechreuodd y cyfan - gyda'i sioe un fenyw gwyddoniaeth-gomedi gerddorol am niwrowyddoniaeth cariad ac unigedd.
Yn grymuso unrhyw un o unrhyw rhyw, paratowch i ddysgu, chwerthin ac ymfalchio ynoch chi eich hun.
Six
21 - 25 Ion 2020
Dyma chwe gwraig Harri VIII sydd bellach ddim yn cael eu hatal gan u cyn-ŵr yn camu i'r llwyfan ac yn gafael yn y meicroffon i adrodd eu straeon eu hun. Sioe hollol gyffrous sy'n ail-ysgrifennu hanesion, mae'r sioe gerdd 90-munud yma o ferched yn rocio yn eich grymuso a'ch adlonni.