9 to 5 The Musical

29 Hydref - 2 Tachwedd 2019

Theatr Donald Gordon

Deffrwch a dewch i’r Ganolfan i weld sioe gerdd boblogaidd Dolly Parton, yn serennu Caroline Sheen ac Amber Davies o Gymru!

Ychwanegwyd matinée arall yn ôl galw mawr: 30 Hydref

Yn syth o rediad poblogaidd tu hwnt yn West End Llundain, lle dderbyniwyd adolygiadau 5* mae 9 to 5 the Musical yn adrodd stori tair cydweithwraig sydd wedi cyrraedd y dibyn o ganlyniad i ymddygiad ofnadwy eu rheolwr rhywiaethol. Maent yn cynllwynio i herwgipio’u goruchwyliwr ac yn mawr obeithio gallu diwygio’u swyddfa - ond a fydd y merched yn llwyddo neu a fydd popeth yn mynd i’r diawl pan fydd y rheolwr mawr yn galw’n annisgwyl?

Mae hyn yn graddio 5 allan o 5 sêr

“Packed with laughs as big as Dolly’s personality”

Daily Mirror

Mae’r cynhyrchiad doniol yma’n cyflwyno sgôr gan frenhines cerddoriaeth ‘Country’, Dolly Parton, a gafodd ei enwebu am wobr Oscar, Grammy a Tony, a llyfr gan sgriptiwr y ffilm eiconig wreiddiol, Patricia Resnick. Dyma sioe am gryfder mewn undod, sefyll yn gadarn a gofalu am fusnes!

Mae hyn yn graddio 5 allan o 5 sêr

“This is one 9 to 5 you’ll want to do again and again and again”

The Sun

Yn seiliedig ar y ffilm gan 20th Century Fox. Cynhyrchwyd yn wreiddiol ar Broadway gan Robert Greenblatt, Ebrill 2009.

Ni fydd Dolly Parton yn ymddangos yn fyw yn y cynhyrchiad yma.

Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed)
Yn cynnwys cyfeiriadau ysgafn at ryw, defnydd ysgafn o gyffuriau ac ambell air cryf.

Hyd y perfformiad: tua 2 awr 20 munud (yn cynnwys 1 egwyl)

Cynigion i Aelodau

Gostyngiad o £10 ar 29 Hydref. Aelodaeth.

Cynigion i Grwpiau

Grwpiau 10+ gostyngiad o £5, Mawrth - Iau. Trefnu ymweliad grŵp.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon